Crynodeb:
Diben cyffredinol y swydd:
Darparu gwasanaethau rheoli tai o safon i denantiaid hŷn sy’n byw yn eiddo Barcud, a fydd yn galluogi’r Gymdeithas i gyflawni ei hamcanion busnes a diwallu anghenion ei thenantiaid, gan sicrhau bod tenantiaid yn gallu gwireddu eu dyheadau o ran byw’n annibynnol.
Amdanom Ni:
Yn 2018, cyhoeddodd Byrddau gwirfoddol Tai Ceredigion a Tai Canolbarth Cymru eu bod wedi dechrau archwilio’r posibilrwydd y gallai’r ddau landlord gydweithio’n agosach â’i gilydd.
Drwy wneud hynny, mae’r sefydliad newydd mewn sefyllfa i ddatblygu mwy fyth o gartrefi fforddiadwy a darparu cyfleoedd mwy sylweddol o ran cyflogaeth a hyfforddiant i’w staff a’i denantiaid yn rhanbarth y gorllewin a’r canolbarth. Mae’r uno yn cynnig cyfleoedd newydd cyffrous i denantiaid, preswylwyr, gweithwyr a busnesau lleol.
Darganfyddwch fwy amdanom ni Yma
Rôl y Swydd:
Cyfrifoldebau Allweddol:
Tai â Chymorth:
- Cyflawni dyletswyddau gweithiwr cymorth ar gyfer tenantiaid Barcud sy’n byw mewn eiddo Tai â Chymorth.
- Asesu anghenion a sicrhau bod unigolion yn cael eu cyfeirio at wasanaethau.
- Cynnal asesiadau risg gyda thenantiaid, gan greu cynlluniau cymorth sy’n hybu eu hannibyniaeth, sy’n meithrin eu gallu a’u hyder ac sy’n dangos sut y gellir diwallu eu hanghenion unigol.
- Cadw cofnodion trylwyr ynghylch tenantiaid sy’n cael cymorth, gan ddiweddaru’r cofnodion wrth i asesiadau risg a chynlluniau cymorth gael eu rhoi ar waith.
- Darparu gwybodaeth i breswylwyr am eu cyfraniadau ariannol i gynlluniau Tai â Chymorth (taliadau gwasanaeth ac ati).
- Monitro iechyd a lles tenantiaid, gan nodi unrhyw newidiadau yn eu cynlluniau cymorth.
- Darparu cyngor ac arweiniad i denantiaid sy’n byw mewn eiddo Tai â Chymorth, gan gysylltu â sefydliadau allanol lle bo hynny’n briodol.
- Cynorthwyo tenantiaid newydd i symud i mewn i’r eiddo, a chynorthwyo tenantiaid sy’n gadael i symud allan o’r eiddo.
- Ymateb i alwadau brys, gan ddarparu cymorth a chysur i denantiaid.
- Creu a chynnal cysylltiadau cryf â’r gymuned leol.
- Annog tenantiaid i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol a hybu hynny, gan gynorthwyo i ddatblygu cynlluniau cyfranogiad preswylwyr.
- Rheoli a chynnal diogelwch yr eiddo Tai â Chymorth.
- Annog tenantiaid i ddefnyddio’r cyfleusterau cyffredin.
- Ymateb i unrhyw gwynion ac adrodd yn eu cylch yn unol â pholisi a gweithdrefnau Barcud.
- Cynnal profion rheolaidd ar gyfleusterau’r eiddo Tai â Chymorth.
- Paratoi’r ystafell i westeion, ei chadw ar gyfer pobl yn ôl yr angen, a chasglu’r tâl am ei defnyddio.
- Dirprwyo dros y Cydlynydd Tai â Chymorth yn ôl yr angen.
Pobl:
- Hybu diwylliant o gyflawni’n dda, sy’n hybu gwelliant parhaus ac arbedion effeithlonrwydd.
- Rhannu gwybodaeth am flaenoriaethau, cynlluniau, gweledigaeth ac amcanion y Gymdeithas er mwyn sicrhau
- bod gwaith yn cael ei gyflawni’n effeithiol gan fodloni’r safonau gwasanaeth a’r targedau a gytunwyd.
Corfforaethol:
- Hybu, datblygu a rheoli partneriaethau effeithiol â rhanddeiliaid mewnol ac allanol er mwyn sicrhau gwelliant parhaus wrth ddarparu gwasanaethau.
- Hybu mentrau iechyd a lles ym mhob rhan o’r sefydliad.
- Darparu gwasanaeth ardderchog i bob cwsmer mewnol ac allanol.
- Gweithio’n unol â pholisïau’r Gymdeithas ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant bob amser ac ym mhob agwedd ar waith cyflogi a darparu gwasanaethau.
- Sicrhau bod y Gymdeithas a’i gweithwyr yn cydymffurfio â’r holl ofynion cyfreithiol, statudol a rheoleiddiol ynghyd ag arfer gorau.
- Ym mhob agwedd ar waith y Gymdeithas, hyrwyddo systemau cyfathrebu effeithiol, rhagoriaeth o ran gwasanaeth i gwsmeriaid, a ffocws ar wella’n barhaus.
- Cyflawni unrhyw ddyletswyddau a chyfrifoldebau eraill y gallai fod yn rhesymol gofyn i ddeiliad y swydd eu cyflawni.
Lawrlwythwch y disgrifiad swydd a’r fanyleb person Yma
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cyflog : £25,127 (ar gyfartaledd)
Oriau a math o gontract: 37 Awr, Llawn Amser, parhaol
Lleoliad: Aberystwyth
Dyddiad cau: 7 Rhagfyr 2023 (canol dydd)
(Dylech nodi na dderbynir ceisiadau a ddaw i law ar ôl y dyddiad a’r amser cau)
Dyddiad cyfweliad: 18 o Ragfyr 2023
Gwneud cais:
Os ydych chi’n cael unrhyw anhawster i gael mynediad i’r dolenni yn yr hysbyseb hon, cysylltwch â bev@charityjobfinder.co.uk