Crynodeb:

Bydd deiliad y swydd yn gweinyddu ac yn darparu cymorth o ddydd i ddydd ar gyfer y Prif Weithredwr Grŵp, a bydd yn gweithio yn un o swyddfeydd Barcud (neu’n gweithio gartref drwy gytundeb)

Amdanom Ni:

Ar 1af Tachwedd 2020, unodd Tai Ceredigion a Chymdeithas Tai Canolbarth Cymru. Barcud yw enw’r gymdeithas tai newydd.

Trwy ddod ag arbenigedd, profiad a gweledigaeth ynghyd, bydd Barcud yn darparu tai fforddiadwy i’w rhentu, ar gynllun rhanberchnogaeth ac i brynu yng nghanolbarth a gorllewin Cymru.

Mae Barcud yn gymdeithas tai dielw. Mae pob ceiniog yn cael ei ail-fuddsoddi i ddarparu cartrefi o’r safon uchaf yn ein cymunedau ar draws Powys, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.

Darganfod mwy amdanom ni About us – Barcud

Rôl y Swydd:

Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd gyflawni ystod o ddyletswyddau gweinyddol a dyletswyddau cynorthwyo a fydd yn cynnwys ymdrin ag ymholiadau dros y ffôn; ymdrin â phost sy’n cyrraedd ac sy’n cael ei anfon; cadw cofnodion mewn cyfarfodydd; trefnu dyddiadur y Prif Weithredwr Grŵp; arwain y gwaith o reoli digwyddiadau neu gyfathrebu â phobl allanol neu gynorthwyo gyda’r gwaith hwnnw; cynrychioli’r Prif Weithredwr Grŵp mewn rhai cyfarfodydd mewnol ar gyfer prosiectau neu grwpiau gorchwyl a gorffen; a holi ynghylch cynnydd prosiectau allweddol.

Dadlwythwch y disgrifiad swydd HERE

Lleoliad: Lampeter/Aberystwyth or Newtown

Cyflog (ar gyfartaledd): £27,589.00 – £31,106.00

Oriau a math o gontract: 37 Awr, Llawn Amser, parhaol (ystyrir oriau rhan amser – lleiafswm o 30 awr)

Yn atebol i’r canlynol: Prif Weithredwr

Dyddiad cau: 15 Rhagfyr 2023 (canol dydd)
(Dylech nodi na dderbynir ceisiadau a ddaw i law ar ôl y dyddiad a’r amser cau)

Dyddiad y Cyfweliad: 10 Ionawr 2024

 

Os ydych chi’n cael unrhyw anhawster i gael mynediad i’r dolenni yn yr hysbyseb hon, cysylltwch â bev@charityjobfinder.co.uk

Gwneud cais:

I wneud cais cliciwch ar y ddolen isod