Crynodeb:
Mae’r Pennaeth Gweithrediadau Rheoleiddio yn gyfrifol am gynnal y gofrestr statudol o landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru, cyflwyno’r rhaglen flynyddol o ddyfarniadau rheoleiddio, goruchwyliaeth reoleiddiol yr LCCau, gwaith achos rheoleiddio, busnes y llywodraeth a chyfathrebu. Bydd deiliad y swydd yn arwain tîm aml-sgiliau sydd wedi’i leoli ledled Cymru sy’n cynnwys arbenigwyr llywodraethu a chyfrifwyr cymwys sy’n cynnal asesiadau cydymffurfio â safonau rheoleiddio a bennir o dan adran 33A o Ddeddf Tai 1996 a’r fframwaith rheoleiddio.
Amdanom Ni:
Gwnewch wahaniaeth gyda ni!
Rydym yn recriwtio i nifer o rolau tîm cyffrous i gryfhau rheoleiddio tai cymdeithasol yng Nghymru.
Oes gennych chi angerdd dros amddiffyn buddiannau a diogelwch tenantiaid? A oes gennych y sgiliau a’r profiad i ddiogelu buddsoddiad cyhoeddus yn ein stoc tai cymdeithasol?
Gwnewch gais heddiw i fanteisio ar y buddion canlynol:
- Amgylchedd gwaith cefnogol a chytbwys sy’n cynnig yr hyblygrwydd i chi ddewis ble a phryd rydych chi’n gweithio
- Gwyliau blynyddol hael
- Cyflog a phensiwn cystadleuol
- Ystod eang o fuddion ychwanegol i weithwyr
Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob lleoliad ac yn enwedig rhai o gefndiroedd amrywiol.
Cliciwch Pennaeth Gweithrediadau Rheoleiddio i ddarganfod mwy o wybodaeth am y swyddi ac am weithio i Lywodraeth Cymru.
Rôl y Swydd:
Mae’r Pennaeth Gweithrediadau Rheoleiddio yn gyfrifol am gynnal y gofrestr statudol o landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru, cyflwyno’r rhaglen flynyddol o ddyfarniadau rheoleiddio, goruchwyliaeth reoleiddiol yr LCCau, gwaith achos rheoleiddio, busnes y llywodraeth a chyfathrebu. Bydd deiliad y swydd yn arwain tîm aml-sgiliau sydd wedi’i leoli ledled Cymru sy’n cynnwys arbenigwyr llywodraethu a chyfrifwyr cymwys sy’n cynnal asesiadau cydymffurfio â safonau rheoleiddio a bennir o dan adran 33A o Ddeddf Tai 1996 a’r fframwaith rheoleiddio.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Lleoliad: Cymru gyfan
Cyflog: £58918 – £70450
Cytundeb: Parhaol neu Secondiad
Oriau: Llawn Amser (37 oriau) addas ar gyfer Rhan-amser neu Rannu Swydd neu Llawn-amser.
Dyddiad cau: 09/05/25
Dyddiad cyfweliad: I’w gadarnhau
Gwneud cais:
Dilynwch y ddolen am fanylion sut i wneud cais
Os ydych chi’n cael unrhyw anhawster i gael mynediad i’r dolenni yn yr hysbyseb hon, cysylltwch â bev@charityjobfinder.co.uk