Crynodeb:
Rydym yn chwilio am rywun i ddarparu arweiniad strategol a gweithredol ar waith Tai Pawb ym meysydd polisi, dylanwadu, digwyddiadau a chyfathrebu. Byddwch yn adeiladu ar enw da Tai Pawb fel elusen fwyaf blaenllaw Cymru o ran cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant Cymru drwy weithio gyda llunwyr polisi a gwella proffil cyhoeddus Tai Pawb drwy gysylltiadau cyhoeddus ac arwain agweddau ar yr un pryd â chydlynu digwyddiadau dylanwadol sy’n cysylltu polisi ac ymarfer. Bydd deiliad y swydd yn rheolwr llinell uniongyrchol ar y Rheolwr Polisi, y Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata, a’r Rheolwr Gwrth-hiliaeth.
Amdanom Ni:
Tai Pawb yw’r prif sefydliad sy’n hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y sector tai yng Nghymru. Rydym ni’n dychmygu Cymru lle mae gan bawb yr hawl i gael cartref da. Rydym ni’n cefnogi ein haelodau a’r sector tai yn ehangach i wreiddio cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhopeth maen nhw’n ei wneud, gan ddylanwadu hefyd ar y rhai sy’n llunio polisïau.
Rôl y Swydd:
Ydych chi’n frwd dros gydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol, gyda hanes llwyddiannus o ddylanwadu ar lunwyr polisïau cenedlaethol?
Oes gennych chi wybodaeth gynhwysfawr am brosesau gwleidyddol, a’r sgiliau i ymgysylltu’n effeithiol â phobl flaenllaw sy’n gwneud y penderfyniadau mwyaf yng Nghymru?
Ydych chi’n ddylanwadwr argyhoeddiadol a chydweithredol, yn awyddus i lunio’r ffordd rydym yn cysylltu â phobl sy’n gwneud penderfyniadau allweddol?
Os felly, rydym eisiau clywed gennych chi.
Rydym yn chwilio am rywun i ddarparu arweiniad strategol a gweithredol ar waith Tai Pawb ym meysydd polisi, dylanwadu, digwyddiadau a chyfathrebu. Byddwch yn adeiladu ar enw da Tai Pawb fel elusen fwyaf blaenllaw Cymru o ran cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant Cymru drwy weithio gyda llunwyr polisi a gwella proffil cyhoeddus Tai Pawb drwy gysylltiadau cyhoeddus ac arwain agweddau ar yr un pryd â chydlynu digwyddiadau dylanwadol sy’n cysylltu polisi ac ymarfer. Bydd deiliad y swydd yn rheolwr llinell uniongyrchol ar y Rheolwr Polisi, y Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata, a’r Rheolwr Gwrth-hiliaeth.
Bydd angen i chi gofleidio’r syniad nad yw swydd o’r math hwn mewn sefydliad bach byth yn gyfyngedig iawn i oruchwyliaeth strategol. Mae’r swydd hon yn rhan o’r tîm arwain yn Tai Pawb – ochr yn ochr â’r Prif Weithredwr a’r Pennaeth Aelodaeth a Phartneriaethau.
Additional Information:
Lleoliad: Gweithiogartref (presenoldeb achlysurol yn swyddfa yng Nghaerdydd atheithio)
Cyflog: £43,393
Cytundeb: Parhaol
Oriau: Hyblyg, 35 wedi’u contractio
Dyddiad cau: 12pm 12 Mai 2025 (hanner dydd)
Sut mae Gwneud Cais:
- Darllenwch y Swydd-Ddisgrifiad a Manyleb y Person: yma
- Llenwch ein ffurflen gais yma
- Llenwch ein ffurflen monitro cydraddoldeb yma
- Mae angen eu hanfon dros e-bost at andrea@taipawb.org erbyn 12pm 12 Mai
Hysbysiad Preifatrwydd | Sut rydym yn defnyddio camau gweithredu cadarnhaol wrth recriwtio
Os ydych chi’n cael unrhyw anhawster i gael mynediad i’r dolenni yn yr hysbyseb hon, cysylltwch â bev@charityjobfinder.co.uk