Crynodeb:

Arwain ar faterion sy’n ymwneud ag iechyd a diogelwch a chydymffurfio, gan sicrhau bod Barcud yn cyflawni ei gyfrifoldebau statudol, rheoleiddiol, cyfreithiol a than gontract am iechyd a diogelwch ei weithwyr cyflogedig, ei gontractwyr mewnol, ei breswylwyr a’r sawl sy’n ymweld â nhw. Hyrwyddo safonau uchel o ran iechyd a diogelwch ar draws Grŵp Barcud.
Bydd deiliad y swydd eisoes wedi ennill cymhwyster cydnabyddedig ym maes iechyd a diogelwch (e.e. Diploma Cenedlaethol NEBOSH mewn Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol, neu radd MSc. neu BSc. mewn Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol).

Amdanom Ni:

Yn 2018, cyhoeddodd Byrddau gwirfoddol Tai Ceredigion a Tai Canolbarth Cymru eu bod wedi dechrau archwilio’r posibilrwydd y gallai’r ddau landlord gydweithio’n agosach â’i gilydd.

Drwy wneud hynny, mae’r sefydliad newydd mewn sefyllfa i ddatblygu mwy fyth o gartrefi fforddiadwy a darparu cyfleoedd mwy sylweddol o ran cyflogaeth a hyfforddiant i’w staff a’i denantiaid yn rhanbarth y gorllewin a’r canolbarth. Mae’r uno yn cynnig cyfleoedd newydd cyffrous i denantiaid, preswylwyr, gweithwyr a busnesau lleol.

Darganfyddwch fwy amdanom yma About us – Barcud

Teitl y swydd: 

Diben cyffredinol y swydd:

Arwain ar faterion sy’n ymwneud ag iechyd a diogelwch a chydymffurfio, gan sicrhau bod Barcud yn cyflawni ei gyfrifoldebau statudol, rheoleiddiol, cyfreithiol a than gontract am iechyd a diogelwch ei weithwyr cyflogedig, ei gontractwyr mewnol, ei breswylwyr a’r sawl sy’n ymweld â nhw. Hyrwyddo safonau uchel o ran iechyd a diogelwch ar draws Grŵp Barcud.
Bydd deiliad y swydd eisoes wedi ennill cymhwyster cydnabyddedig ym maes iechyd a diogelwch (e.e. Diploma Cenedlaethol NEBOSH mewn Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol, neu radd MSc. neu BSc. mewn Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol).

Cyfrifoldebau Cyffredinol:

  • Gweithredu fel person cymwys a benodwyd yn briodol ar gyfer meysydd allweddol sy’n ymwneud â chydymffurfio, a sicrhau bod darpariaethau statudol a darpariaethau o ran gwasanaeth ar draws Barcud yn cael eu cyflawni, gan gynnwys ym maes asesiadau risg y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai; diogelwch tân; diogelwch trydanol; diogelwch nwy; y Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chyfarpar Codi; legionella ac asbestos, ymhlith meysydd eraill.
  • Arwain ar Weithgor Cydymffurfio’r Landlord yn Barcud i ddarparu cyngor a chymorth strategol ynghylch iechyd a diogelwch yng nghyswllt pob mater sy’n ymwneud ag iechyd a diogelwch. Mae hynny’n cynnwys cynghori’r Bwrdd, y Tîm Arwain, penaethiaid gwasanaeth, rheolwyr, swyddogion a staff gweithredol.
  • Hyrwyddo diwylliant cadarnhaol o ran iechyd a diogelwch yn y Grŵp a nodi gwelliannau, datblygu prosesau newydd ochr yn ochr â chydweithwyr gweithredol a monitro cynlluniau gweithredu er mwyn sicrhau bod yr amgylchedd gweithio yn ddiogel i bob cydweithiwr.
  • Darparu adroddiadau ysgrifenedig a llafar rheolaidd ar gyfer Byrddau, Pwyllgorau, y Tîm Arwain, y Tîm Rheoli Gweithredol a sesiynau briffio rheolaidd i staff, yn ogystal ag mewn digwyddiadau i denantiaid, a darparu diweddariadau perthnasol ar gyfer llythyrau newyddion i staff a thenantiaid.
  • Cynorthwyo gydag adolygiadau o bolisi ac arwain adolygiadau o weithdrefnau yng nghyswllt iechyd a diogelwch.
  • Cynghori ynghylch ystod o feysydd arbenigol, e.e. rheoliadau tân, sylweddau peryglus, sŵn, peiriannau diogelu a chlefydau galwedigaethol.
  • Cynnal asesiadau risg ac ystyried sut y gellid lleihau risgiau, gan amlinellu gweithdrefnau gweithredu diogel sy’n adnabod ac yn ystyried pob perygl perthnasol.
  • Monitro iechyd a diogelwch wrth ymgymryd â datblygiadau newydd, gwaith adnewyddu a phrosiectau cyfalaf, gan sicrhau bod contractwyr a’r tîm mewnol o grefftwyr yn cydymffurfio â phob deddfwriaeth ac yn glynu wrth arfer da.
  • Ar y cyd â phrif swyddogion, cynnal ymchwiliadau’n dilyn damweiniau, digwyddiadau neu ddamweiniau fu bron â digwydd i weithwyr cyflogedig, preswylwyr neu gontractwyr mewnol, ar eiddo Barcud neu’n ymwneud â cherbydau Barcud. Cofnodi’r canfyddiadau, adrodd yn eu cylch wrth y tîm rheoli ac, os oes angen, adrodd yn eu cylch wrth yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch dan y Rheoliadau Adrodd ynghylch Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus.
  • Bod yn brif bwynt cyswllt â’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, a hyrwyddo defnydd o arweiniad ac adnoddau’r Awdurdod hwnnw.
  • Cynorthwyo i gael pob cymeradwyaeth angenrheidiol ar gyfer rhaglenni gwaith adeiladu arfaethedig, megis cymeradwyaeth sy’n ymwneud â’r Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli), iechyd a diogelwch, a chontractwyr.
  • Cynorthwyo swyddogion technegol i sicrhau y cydymffurfir ag unrhyw ofynion, ac y caiff gwasanaethau adeiladu eu darparu i safon uchel o ran iechyd a diogelwch ac mewn modd sy’n cydymffurfio â’r Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli). Mae hynny’n cynnwys arolygu ac archwilio safleoedd o safbwynt iechyd a diogelwch.
  • Darparu cyngor, hyfforddiant a chymorth arbenigol i staff ynghylch materion sy’n ymwneud ag iechyd a diogelwch, a chyfrannu i’r agenda ehangach o ran rheoli risg.
  • Monitro a rheoli ymgynghorwyr iechyd a diogelwch, a allai gael eu defnyddio o bryd i’w gilydd.
  • Gweithio gyda thîm hyfforddiant Barcud i ddatblygu a gweithredu cynlluniau hyfforddiant ym maes iechyd a diogelwch, sy’n sicrhau bod pob cydweithiwr yn cael hyfforddiant statudol a hyfforddiant sy’n gymesur â’r risgiau y maent yn eu hwynebu wrth gyflawni eu rolau.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cyflog (ar gyfartaledd): £57,783 – £65,148

Oriau a math o gontract: 37 Awr, Llawn Amser, parhaol

Yn atebol i’r canlynol: Cyfarwyddwr Grŵp Gwasanaethau Masnachol

Adran: Datblygu a Rheoli Asedau

Lleoliad: Llanbedr Pont Steffan, Y Drenewydd neu Aberystwyth

Dyddiad cau: 20 Mawrth 2025 (canol dydd)
(Dylech nodi na dderbynir ceisiadau a ddaw i law ar ôl y dyddiad a’r amser cau)

Dyddiad y Cyfweliad: 2 Ebrill 2025

Lawrlwythwch y disgrifiad swydd a’r fanyleb person yma

Gwneud cais:

I wneud cais, dilynwch y ddolen isod..

Os ydych chi’n cael unrhyw anhawster i gael mynediad i’r dolenni yn yr hysbyseb hon, cysylltwch â bev@charityjobfinder.co.uk