Crynodeb:

Pwrpas y swydd gyffredinol yw cynorthwyo i weithredu’r swyddogaeth gyllid a chyflwyno a datblygu strategaethau a
systemau cyllid o ansawdd, sy’n galluogi Kite i gyflawni ei amcanion busnes a bodloni
anghenion rhanddeiliaid mewnol ac allanol.

Amdanom ni

Yn 2018, cyhoeddodd Byrddau gwirfoddol Tai Ceredigion a Tai Canolbarth Cymru eu bod wedi dechrau archwilio’r posibilrwydd y gallai’r ddau landlord gydweithio’n agosach â’i gilydd.

Drwy wneud hynny, mae’r sefydliad newydd mewn sefyllfa i ddatblygu mwy fyth o gartrefi fforddiadwy a darparu cyfleoedd mwy sylweddol o ran cyflogaeth a hyfforddiant i’w staff a’i denantiaid yn rhanbarth y gorllewin a’r canolbarth. Mae’r uno yn cynnig cyfleoedd newydd cyffrous i denantiaid, preswylwyr, gweithwyr a busnesau lleol.

Rôl y Swydd:

Cyfrifoldebau Allweddol –
Cyllid:
• Ymgymryd ag ystod eang o weithgareddau cymorth i’r Tîm Cyllid er mwyn
cynorthwyo i ddarparu gwasanaethau’n amserol ac mewn modd sy’n canolbwyntio
ar y cwsmer.
• Bod yn bwynt cyswllt yn yr Adran Gyllid ar gyfer ymdrin ag ymholiadau dros y ffôn,
drwy’r post a thrwy e-bost gan ein holl gysylltiadau, gan gynnwys is-gontractwyr,
cyflenwyr, tenantiaid, lesddeiliaid, sefydliadau eraill a staff.
• Mewnbynnu dogfennau i systemau rheolaeth ariannol y Grŵp gan sicrhau bod
cofnodion yn cael eu cadw’n gywir, yn amserol ac yn unol â’r ddeddfwriaeth
berthnasol.
• Cysoni trafodion ariannol, er enghraifft cysoni trafodion banc, arian parod a
chardiau credyd.
• Sicrhau y cydymffurfir â pholisïau ac arferion yn unol â deddfwriaeth ariannol
gyfredol ac arfer gorau cydnabyddedig, ac mewn modd sy’n briodol i anghenion y
sefydliad.
• Cynhyrchu rhediad o daliadau BACS wythnosol, sicrhau bod y rhediad hwnnw’n
gywir a pherchenogi cywirdeb dyraniadau’r llyfr pryniant.
• Creu a mewnbynnu dyddlyfrau yn ôl yr angen yn rheolaidd.
• Cynnal cydberthnasau effeithiol â chyflenwyr a rhanddeiliaid eraill.
• Bod yn bwynt cyswllt ar gyfer cwestiynau gan staff o adrannau eraill am drafodion.
• Darparu cymorth ariannol mewn modd cydweithredol ar draws gwasanaethau’r
Grŵp.
• Cyfrannu at y broses diwedd mis, gan sicrhau bod trafodion yn cael eu
mewnbynnu’n amserol.
Mai 2021
• Cadw gwybodaeth am bob gwiriad a chadarnhad sy’n digwydd ynglŷn â manylion banc a manylion cyswllt cyflenwyr.
• Cymryd rhan yn weithredol mewn unrhyw arolygiadau archwilio, gan roi’r cymorth a’r cyngor angenrheidiol fel y bo’n briodol.
• Cynhyrchu gwybodaeth ac adroddiadau ariannol pan geir cais amdanynt.
Pobl:
• Hybu diwylliant o gyflawni’n dda, sy’n hybu gwelliant parhaus ac arbedion effeithlonrwydd.
• Rhannu gwybodaeth am flaenoriaethau, cynlluniau, gweledigaeth ac amcanion y Gymdeithas er mwyn sicrhau bod gwaith yn cael ei gyflawni’n effeithiol gan fodloni’r safonau gwasanaeth a’r targedau a gytunwyd.
Corfforaethol:
• Hybu, datblygu a rheoli partneriaethau effeithiol â rhanddeiliaid mewnol ac allanol er mwyn sicrhau gwelliant parhaus wrth ddarparu gwasanaethau.
• Hybu mentrau iechyd a lles ym mhob rhan o’r sefydliad.
• Darparu gwasanaeth ardderchog i bob cwsmer mewnol ac allanol.
• Gweithio’n unol â pholisïau’r Gymdeithas ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant bob amser ac ym mhob agwedd ar waith cyflogi a darparu gwasanaethau.
• Sicrhau bod y Gymdeithas a’i gweithwyr yn cydymffurfio â’r holl ofynion cyfreithiol, statudol a rheoleiddiol ynghyd ag arfer gorau.
• Ym mhob agwedd ar waith y Gymdeithas, hyrwyddo systemau cyfathrebu effeithiol, rhagoriaeth o ran gwasanaeth i gwsmeriaid, a ffocws ar wella’n barhaus.
• Cyflawni unrhyw ddyletswyddau a chyfrifoldebau eraill y gallai fod yn rhesymol gofyn i ddeiliad y swydd eu cyflawni.

Lawrlwythwch y Disgrifiad Swydd Yma

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cyflog (ar gyfartaledd): £25,127.00 pro rata

Oriau a math o gontract: 20 awr, Rhan Amser a Pharhaol

Lleoliadd: Y Drenewydd

Sut i Wneud Cais:

Dyddiad cau: 26 Hydref 2023 (canol dydd)
(Dylech nodi na dderbynir ceisiadau a ddaw i
law ar ôl y dyddiad a’r amser cau)

Dyddiad y Cyfweliad: 6 Rhagfyr 2023 (canol dydd)
(Dylech nodi na dderbynir ceisiadau a ddaw i law ar ôl y dyddiad a’r amser cau)

I wneud cais cliciwch ar y ddolen isod

Os oes gennych unrhyw broblemau wrth agor y ddolen cysylltwch â bev@charityjobfinder.co.uk