Crynodeb:
Cynorthwyo i weithredu’r swyddogaeth gyllid ac i gyflwyno a datblygu strategaethau a systemau cyllid o safon, sy’n galluogi Barcud i gyflawni ei amcanion busnes a diwallu anghenion rhanddeiliaid mewnol ac allanol.
Amdanom Ni:
Yn 2018, cyhoeddodd Byrddau gwirfoddol Tai Ceredigion a Tai Canolbarth Cymru eu bod wedi dechrau archwilio’r posibilrwydd y gallai’r ddau landlord gydweithio’n agosach â’i gilydd.
Drwy wneud hynny, mae’r sefydliad newydd mewn sefyllfa i ddatblygu mwy fyth o gartrefi fforddiadwy a darparu cyfleoedd mwy sylweddol o ran cyflogaeth a hyfforddiant i’w staff a’i denantiaid yn rhanbarth y gorllewin a’r canolbarth. Mae’r uno yn cynnig cyfleoedd newydd cyffrous i denantiaid, preswylwyr, gweithwyr a busnesau lleol.
Darganfyddwch fwy amdanom yma About us – Barcud
Rôl y Swydd:
Cyfrifoldebau Allweddol –
Cyllid:
- Ymgymryd ag ystod eang o weithgareddau cymorth i’r Tîm Cyllid er mwyn cynorthwyo i ddarparu gwasanaethau’n amserol ac mewn modd sy’n canolbwyntio ar y cwsmer.
- Bod yn bwynt cyswllt yn yr Adran Gyllid ar gyfer ymdrin ag ymholiadau dros y ffôn, drwy’r post a thrwy e-bost gan ein holl gysylltiadau, gan gynnwys is-gontractwyr, cyflenwyr, tenantiaid, lesddeiliaid, sefydliaau eraill a staff.
- Mewnbynnu dogfennau i systemau rheolaeth ariannol y Grŵp gan sicrhau bod cofnodion yn cael eu cadw’n gywir, yn amserol ac yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.
- Cysoni trafodion ariannol, er enghraifft cysoni trafodion banc, arian parod a chardiau credyd.
- Sicrhau y cydymffurfir â pholisïau ac arferion yn unol â deddfwriaeth ariannol gyfredol ac arfer gorau cydnabyddedig, ac mewn modd sy’n briodol i anghenion y sefydliad.
- Cynhyrchu rhediad o daliadau BACS wythnosol, sicrhau bod y rhediad hwnnw’n gywir a pherchenogi cywirdeb dyraniadau’r llyfr pryniant.
- Creu a mewnbynnu dyddlyfrau yn ôl yr angen yn rheolaidd.
- Cynnal cydberthnasau effeithiol â chyflenwyr a rhanddeiliaid eraill.
- Bod yn bwynt cyswllt ar gyfer cwestiynau gan staff o adrannau eraill am drafodion.
- Darparu cymorth ariannol mewn modd cydweithredol ar draws gwasanaethau’r Grŵp.
- Cyfrannu at y broses diwedd mis, gan sicrhau bod trafodion yn cael eu mewnbynnu’n amserol.
- Cadw gwybodaeth am bob gwiriad a chadarnhad sy’n digwydd ynglŷn â manylion banc a manylion cyswllt cyflenwyr.
- Cymryd rhan yn weithredol mewn unrhyw arolygiadau archwilio, gan roi’r cymorth a’r cyngor angenrheidiol fel y bo’n briodol.
- Cynhyrchu gwybodaeth ac adroddiadau ariannol pan geir cais amdanynt.
- Lawrlwythwch y disgrifiad swydd yma a manyleb person
Lawrlwythwch y disgrifiad swydd yma a manyleb person yma
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cyflog: £26,383 – £29,740 pro rata
Oriau a math o gontract: 15 – 20 Awr, Rhan Amser a Pharhaol
Yn atebol i’r canlynol: Uwch Swyddog Cyllid
Adran: Cyllid
Lleoliadd: Y Drenewydd
Gwneud cais:
Dyddiad cau: 15 Hydref 2024 (canol dydd)
(Dylech nodi na dderbynir ceisiadau a ddaw i law ar ôl y dyddiad a’r amser cau)
Dyddiad y Cyfweliad: 28 Hydref 2024
I wneud cais, dilynwch y ddolen isod.
Os ydych chi’n cael unrhyw anhawster i gael mynediad i’r dolenni yn yr hysbyseb hon, cysylltwch â bev@charityjobfinder.co.uk