Crynodeb:
Rydym yn awyddus i recriwtio Swyddog Tai i ddarparu gwasanaeth rheoli tai o ansawdd uchel ar gyfer eiddo Barcud yng Nghanolbarth Ceredigion.
Amdanom Ni:
Yn 2018, cyhoeddodd Byrddau gwirfoddol Tai Ceredigion a Tai Canolbarth Cymru eu bod wedi dechrau archwilio’r posibilrwydd y gallai’r ddau landlord gydweithio’n agosach â’i gilydd.
Drwy wneud hynny, mae’r sefydliad newydd mewn sefyllfa i ddatblygu mwy fyth o gartrefi fforddiadwy a darparu cyfleoedd mwy sylweddol o ran cyflogaeth a hyfforddiant i’w staff a’i denantiaid yn rhanbarth y gorllewin a’r canolbarth. Mae’r uno yn cynnig cyfleoedd newydd cyffrous i denantiaid, preswylwyr, gweithwyr a busnesau lleol.
Darganfyddwch fwy amdanom About us – Barcud
Rôl y Swydd:
Darparu gwasanaeth rheoli tai sy’n wasanaeth o safon ar gyfer yr eiddo y mae Barcud yn gyfrifol amdano, a fydd yn galluogi’r Gymdeithas i gyflawni ei hamcanion busnes a diwallu anghenion ei thenantiaid.
Lawrlwythwch y Disgrifiad Swydd a’r Fanyleb Person yma
Gwybodaeth Ychwanegol:
Lleoliad: Aberteifi, Llanbedr Pont Steffan neu Aberystwyth
Cyflog (ar gyfartaledd): £33,889.00
Oriau a math o gontract: 37 Awr, Llawn Amser, Parhaol
Dyddiad cau: 03 Ionawr 2024 (canol dydd)
(Dylech nodi na dderbynir ceisiadau a ddaw i law ar ôl y dyddiad a’r amser cau)
Dyddiad y Cyfweliad: 12 Ionawr 2024
Gwneud cais:
Os ydych chi’n cael unrhyw anhawster i gael mynediad i’r dolenni yn yr hysbyseb hon, cysylltwch â bev@charityjobfinder.co.uk