Crynodeb:
Cynorthwyo’r Cyfarwyddwr Cyllid Cynorthwyol i reoli pob gweithdrefn hyd at a chan gynnwys cwblhau’r mantoliad prawf. Mae hynny’n cynnwys ymdrin â thaliadau credydwyr, anfonebau dyledwyr, cysoniadau banc ac ati, a rheoli aelodau’r tîm gan gynnwys y Swyddogion Cyllid, y Cynorthwy-ydd Cyllid a’r Prentis Cyllid.
Amdanom Ni:
Cymdeithas dai deinamig a ffurfiwyd drwy uno yn 2020 Barcud Cyf. Mae ein sefydliad yn cyfuno arweinyddiaeth gref, rheoli tai, ac arbenigedd datblygu i greu busnes uchelgeisiol, blaengar. Mae’r uniad strategol hon wedi gosod Barcud mewn sefyllfa i gymryd camau hyderus i ddatblygu tai fforddiadwy i’w rhentu a’u prynu a darparu gwasanaethau cymorth tai i’n tenantiaid. Mae hefyd wedi caniatáu inni feithrin mwy o gyfleoedd cyflogaeth o ansawdd uchel ar gyfer canolbarth a gorllewin Cymru. Mae Barcud yn ymroddedig i gefnogi busnesau lleol ac ail-fuddsoddi yn y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Ymunwch â ni wrth i ni weithio tuag at adeiladu dyfodol gwell, mwy cynaliadwy i bawb
Darganfyddwch fwy amdanom yma About us – Barcud
Teitl y swydd:
Cynorthwyo’r Cyfarwyddwr Cyllid Cynorthwyol i reoli pob gweithdrefn hyd at a chan gynnwys cwblhau’r mantoliad prawf. Mae hynny’n cynnwys ymdrin â thaliadau credydwyr, anfonebau dyledwyr, cysoniadau banc ac ati, a rheoli aelodau’r tîm gan gynnwys y Swyddogion Cyllid, y Cynorthwy-ydd Cyllid a’r Prentis Cyllid.
Cyfrifoldebau Allweddol – Cyllid:
- Arwain, goruchwylio a chymell aelodau’r tîm er mwyn sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu darparu’n brydlon mewn modd sy’n canolbwyntio ar y cwsmer.
- Bod yn gyfrifol am y swyddogaeth sy’n ymdrin â thaliadau credydwyr.
- Bod yn gyfrifol am y swyddogaeth sy’n ymdrin â dyledwyr.
- Bod yn gyfrifol am gysoni trafodion ariannol megis cysoniadau banc, arian parod a chardiau credyd.
- Bod yn Weinyddwr System ar gyfer systemau ariannol, gan gynnwys y systemau ar gyfer credydwyr, dyledwyr a chaffael.
- Sicrhau integriti a chywirdeb gwybodaeth ariannol o systemau bwydo.
- Rheoli/Darparu hyfforddiant ynghylch y systemau ar gyfer credydwyr, dyledwyr a chaffael.
- Llunio, diweddaru a monitro’r rhestr wirio fisol ar gyfer pob tasg ariannol hyd at a chan gynnwys creu’r mantoliad prawf.
- Goruchwylio’r gwaith o gynhyrchu’r rhediad BACS wythnosol, a goruchwylio ei gywirdeb, gan sicrhau cywirdeb y dyraniadau yn y llyfr pryniant.
- Bod yn bwynt cyswllt yn yr Adran Gyllid ar gyfer ymholiadau mwy cymhleth a/neu ddadleuol dros y ffôn, drwy’r post a thrwy e-bost gan ein holl gysylltiadau, gan gynnwys is-gontractwyr, cyflenwyr, tenantiaid, lesddeiliaid, sefydliadau eraill a staff.
- Sicrhau y cydymffurfir â pholisïau ac arferion yn unol â deddfwriaeth ariannol gyfredol ac arfer gorau cydnabyddedig, ac mewn modd sy’n briodol i anghenion y sefydliad.
- Cynnal cydberthnasau effeithiol â chyflenwyr a rhanddeiliaid eraill.
- Darparu cymorth ym maes cyllid mewn modd cydweithredol ar draws gwasanaethau’r Grŵp.
- Cynnal cydberthnasau mewnol da ac effeithiol â chydweithwyr ym maes cyllid.
- Cymryd rhan yn weithredol mewn unrhyw arolygiadau archwilio, gan roi’r cymorth a’r cyngor angenrheidiol fel y bo’n briodol a rheoli’r ymatebion ar ran y tîm.
- Bod yn gyfrifol am gynhyrchu gwybodaeth ac adroddiadau ariannol pan geir cais amdanynt.
- Medru gweithio ar draws tri lleoliad yn rheolaidd.
Lawrlwythwch y disgrifiad swydd a’r fanyleb person yma
Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn arbennig, y rhai sydd ar hyn o bryd yn cael eu tangynrychioli yn ein gweithlu.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cyflog:£31,570 – £35,583
Oriau a math o gontract: 37 Awr, Llawn Amser, Parhaol
Yn atebol i’r canlynol: Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyllid
Adran: Cyllid
Lleoliadd: Llanbedr Pont Steffan, Y Drenewydd, Aberystwyth
Dyddiad cau: 1 Hydref 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 9 Hydref 2025
Rydym yn cadw’r hawl i gau’r swydd yn gynt os byddwn yn derbyn digon o geisiadau.
Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn arbennig, y rhai sydd ar hyn o bryd yn cael eu tangynrychioli yn ein gweithlu.
Gwneud cais:
I wneud cais, dilynwch y ddolen isod.
Os ydych chi’n cael unrhyw anhawster i gael mynediad i’r dolenni yn yr hysbyseb hon, cysylltwch â bev@charityjobfinder.co.uk