Crynodeb:

Cynorthwyo i weithredu’r swyddogaeth gyllid ac i gyflwyno a datblygu strategaethau a systemau cyllid o safon, sy’n galluogi Barcud i gyflawni ei amcanion busnes a diwallu anghenion rhanddeiliaid mewnol ac allanol.

Amdanom Ni:

Yn 2018, cyhoeddodd Byrddau gwirfoddol Tai Ceredigion a Tai Canolbarth Cymru eu bod wedi dechrau archwilio’r posibilrwydd y gallai’r ddau landlord gydweithio’n agosach â’i gilydd.

Drwy wneud hynny, mae’r sefydliad newydd mewn sefyllfa i ddatblygu mwy fyth o gartrefi fforddiadwy a darparu cyfleoedd mwy sylweddol o ran cyflogaeth a hyfforddiant i’w staff a’i denantiaid yn rhanbarth y gorllewin a’r canolbarth. Mae’r uno yn cynnig cyfleoedd newydd cyffrous i denantiaid, preswylwyr, gweithwyr a busnesau lleol.

Darganfyddwch fwy amdanom yma About us – Barcud

Rôl y Swydd:

Cyfrifoldebau Allweddol –
Cyllid:

  • Ymgymryd ag ystod eang o weithgareddau cymorth i’r Tîm Cyllid er mwyn cynorthwyo i ddarparu gwasanaethau’n amserol ac mewn modd sy’n canolbwyntio ar y cwsmer.
  • Bod yn bwynt cyswllt yn yr Adran Gyllid ar gyfer ymdrin ag ymholiadau dros y ffôn, drwy’r post a thrwy e-bost gan ein holl gysylltiadau, gan gynnwys is-gontractwyr, cyflenwyr, tenantiaid, lesddeiliaid, sefydliaau eraill a staff.
  • Mewnbynnu dogfennau i systemau rheolaeth ariannol y Grŵp gan sicrhau bod cofnodion yn cael eu cadw’n gywir, yn amserol ac yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.
  • Cysoni trafodion ariannol, er enghraifft cysoni trafodion banc, arian parod a chardiau credyd.
  • Sicrhau y cydymffurfir â pholisïau ac arferion yn unol â deddfwriaeth ariannol gyfredol ac arfer gorau cydnabyddedig, ac mewn modd sy’n briodol i anghenion y sefydliad.
  • Cynhyrchu rhediad o daliadau BACS wythnosol, sicrhau bod y rhediad hwnnw’n gywir a pherchenogi cywirdeb dyraniadau’r llyfr pryniant.
  • Creu a mewnbynnu dyddlyfrau yn ôl yr angen yn rheolaidd.
  • Cynnal cydberthnasau effeithiol â chyflenwyr a rhanddeiliaid eraill.
  • Bod yn bwynt cyswllt ar gyfer cwestiynau gan staff o adrannau eraill am drafodion.
  • Darparu cymorth ariannol mewn modd cydweithredol ar draws gwasanaethau’r Grŵp.
  • Cyfrannu at y broses diwedd mis, gan sicrhau bod trafodion yn cael eu mewnbynnu’n amserol.
  • Cadw gwybodaeth am bob gwiriad a chadarnhad sy’n digwydd ynglŷn â manylion banc a manylion cyswllt cyflenwyr.
  • Cymryd rhan yn weithredol mewn unrhyw arolygiadau archwilio, gan roi’r cymorth a’r cyngor angenrheidiol fel y bo’n briodol.
  • Cynhyrchu gwybodaeth ac adroddiadau ariannol pan geir cais amdanynt.
  • Lawrlwythwch y disgrifiad swydd yma  a manyleb person

Lawrlwythwch y disgrifiad swydd yma  a manyleb person yma

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cyflog: £26,383 – £29,740 pro rata

Oriau a math o gontract: 15 – 20 Awr, Rhan Amser a Pharhaol

Yn atebol i’r canlynol: Uwch Swyddog Cyllid

Adran: Cyllid

Lleoliadd: Y Drenewydd

Gwneud cais:

Dyddiad cau: 15 Hydref 2024 (canol dydd)
(Dylech nodi na dderbynir ceisiadau a ddaw i law ar ôl y dyddiad a’r amser cau)

Dyddiad y Cyfweliad: 28 Hydref 2024

I wneud cais, dilynwch y ddolen isod.

Os ydych chi’n cael unrhyw anhawster i gael mynediad i’r dolenni yn yr hysbyseb hon, cysylltwch â bev@charityjobfinder.co.uk