Crynodeb:

Rydym yn chwilio am Pennaeth Gwella Busnes

Gyda gweledigaeth newydd a fydd yn dod ag egni newydd i’n gwaith, mae hwn yn gyfnod hynod gyffrous i Grŵp Cynefin. Mae creu rôl Pennaeth Gwella Busnes newydd, i weithio fel rhan o’r Tîm Arweinyddiaeth ehangach, yn ganolog i ddiwylliant a gweledigaeth y grŵp i’r dyfodol.

Amdanom Ni:

Mae Grŵp Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, sy’n ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014.

​Rydym yn gweithio’n galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybu’r iaith Gymraeg gyda balchder.

Rydym am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau i’r eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd sy’n sicrhau dyfodol cynaliadwy.

Rôl y Swydd:

Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod.

Gyda gweledigaeth newydd a fydd yn dod ag egni newydd i’n gwaith, mae hwn yn gyfnod hynod gyffrous i Grŵp Cynefin. Mae creu rôl Pennaeth Gwella Busnes newydd, i weithio fel rhan o’r Tîm Arweinyddiaeth ehangach, yn ganolog i ddiwylliant a gweledigaeth y grŵp i’r dyfodol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arwain y ffordd mewn rôl amrywiol a chyffrous. Byddant yn:

  • cefnogi trawsnewid sefydliadol ar draws y grŵp
  • cefnogi twf a datblygiad staff
  • gwella profiad y cwsmer trwy ddatblygu eu gallu i ddylanwadu ar bob lefel
  • darparu gwasanaeth cwsmer rhagorol
  • cryfhau ein proffil cadarnhaol ar lefel ranbarthol a chenedlaethol

Mae wedi bod yn gyfnod o ystyried, adolygu, gweld lle gallwn wella a gweithredu arno. Rydyn ni yn awr mewn lle hynod o gadarnhaol ac mae’r dyfodol yn un cyffrous.

Bydd y Pennaeth Gwella Busnes yn gweithio gyda’r uwch-reolwyr i osod y cyfeiriad ar gyfer newid a thrawsnewid y sefydliad. Bydd deilydd y swydd yn sicrhau ein bod yn cyflawni ein gweledigaeth i fod yn sefydliad modern, ystwyth a phroffesiynol – yn ddigidol a galluogi data.

Bydd gan ddeilydd y swydd y sgiliau a’r gallu i weithredu’n gyflym, ymateb i heriau, a gweithio i’r safonau uchaf. Byddwch hefyd yn gyfrifol am arwain rhaglenni newid ar draws y grŵp gan gynnwys trawsnewid digidol, sefydlu fframwaith perfformiad newydd a phrosiectau eraill sydd o bwysigrwydd strategol.

Byddwch yn sicrhau ein bod wedi ymrwymo i ddarparu’r gwasanaeth o’r safon uchaf i’n holl denantiaid a defnyddwyr gwasanaethau. Byddwch yn sicrhau bod yr holl wasanaethau o dan eich arweinyddiaeth yn parhau i fod yn gyfoes o ran dulliau meddwl a gweithredu a bod llais ein tenant yn cael ei glywed ar bob lefel o’r sefydliad.

Byddwch yn gweithio’n effeithiol ac yn gorfforaethol gyda’r Prif Weithredwr, Cyfarwyddwr Adnoddau, Uwch Dîm Arweinyddiaeth a Bwrdd Rheoli Grŵp Cynefin i gyflawni pwrpas, cenhadaeth ac amcanion strategol y grŵp.

Os oes gennych y rhinweddau a’r angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i’n dyfodol, hon yw’r swydd i chi.

Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysyllwch â Crofton Davey, Cydlynydd Adnoddau Dynol ar 0300 111 2122.

Datblygiad Personol: 

Os oes gennych gymwysterau proffesiynol a’ch bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol i’ch corff aelodaeth, byddwn yn talu un o’r rhain bob blwyddyn i’ch helpu i aros yn gysylltiedig â’r wybodaeth a’r addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau i’n holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chi’n gweithio gyda ni byddwn ni’n buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd!

Dogfennau a Dyddiadau Perthnasol Canllawiau cwblhau cais.pdf

Dyddiad cyfweliad: Wythnos yn dechrau 9 Rhagfyr 2024

Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) Byddwn yn gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Sylfaenol ar gyfer y swydd hon.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Lleoliad: Penygroes neu Dinbych a Gweithio o Gartref

Cyflog: Cystadleuol

Cytundeb: Parhaol

Oriau: 35 ayw

Dyddiad cau: 25 Tachwedd 2024

Gwneud cais:

I wneud cais, dilynwch y ddolen isod.

Os ydych chi’n cael unrhyw anhawster i gael mynediad i’r dolenni yn yr hysbyseb hon, cysylltwch â bev@charityjobfinder.co.uk