Crynodeb:
Rydym yn chwilio am Pennaeth Rheoli Asedau
Gyda gweledigaeth newydd a fydd yn dod ag egni newydd i’n gwaith, mae hwn yn gyfnod hynod gyffrous i Grŵp Cynefin. Mae creu rôl Pennaeth Rheoli Asedau, i weithio fel rhan o’r Tîm Arweinyddiaeth ehangach, yn ganolog i ddiwylliant a gweledigaeth y grŵp i’r dyfodol.
Amdanom Ni:
Mae Grŵp Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, sy’n ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014.
Rydym yn gweithio’n galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybu’r iaith Gymraeg gyda balchder.
Rydym am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau i’r eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd sy’n sicrhau dyfodol cynaliadwy.
Rôl y Swydd:
Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod.
Gyda gweledigaeth newydd a fydd yn dod ag egni newydd i’n gwaith, mae hwn yn gyfnod hynod gyffrous i Grŵp Cynefin. Mae creu rôl Pennaeth Rheoli Asedau, i weithio fel rhan o’r Tîm Arweinyddiaeth ehangach, yn ganolog i ddiwylliant a gweledigaeth y grŵp i’r dyfodol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arwain y ffordd mewn rôl amrywiol a chyffrous. Byddant yn:
- cefnogi trawsnewid sefydliadol ar draws y grŵp
- cefnogi twf a datblygiad staff
- gwella profiad y cwsmer trwy ddatblygu eu gallu i ddylanwadu ar bob lefel
- darparu gwasanaeth cwsmer rhagorol
- cryfhau ein proffil cadarnhaol ar lefel ranbarthol a chenedlaethol
Mae wedi bod yn gyfnod o ystyried, adolygu, gweld lle gallwn wella a gweithredu arno. Rydyn ni yn awr mewn lle hynod o gadarnhaol ac mae’r dyfodol yn un cyffrous.
Rydym yn chwilio am unigolyn i arwain rheolaeth strategol portffolio asedau Grŵp Cynefin, gan sicrhau’r perfformiad gorau posibl, cydymffurfiaeth â safonau rheoleiddio, a darparu gwasanaethau atgyweirio a chynnal a chadw yn effeithiol. Mae’r rôl bwysig hon yn gofyn am arweinyddiaeth gref wrth oruchwylio strategaethau rheoli asedau, gweithredu fframweithiau cydymffurfio cadarn, a gyrru effeithlonrwydd mewn gweithrediadau cynnal a chadw.
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn arwain rhaglen rheoli newid trawsnewidiol i wella darpariaeth gwasanaethau, gwella boddhad cwsmeriaid, a meithrin diwylliant o welliant parhaus o fewn y timau rheoli a chynnal a chadw asedau, ochr yn ochr â rhaglen newid sefydliadol ehangach ledled y grŵp.
Byddwch yn gweithio’n effeithiol ac yn gorfforaethol gyda’r Prif Weithredwr, Cyfarwyddwr Eiddo a Buddsoddi, Uwch Dîm Arweinyddiaeth a Bwrdd Rheoli Grŵp Cynefin i gyflawni pwrpas, cenhadaeth ac amcanion strategol y grŵp.
Os oes gennych y rhinweddau a’r angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i’n dyfodol, hon yw’r swydd i chi.
Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysyllwch â Crofton Davey, Cydlynydd Adnoddau Dynol ar 0300 111 2122.
Datblygiad Personol:
Os oes gennych gymwysterau proffesiynol a’ch bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol i’ch corff aelodaeth, byddwn yn talu un o’r rhain bob blwyddyn i’ch helpu i aros yn gysylltiedig â’r wybodaeth a’r addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau i’n holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chi’n gweithio gyda ni byddwn ni’n buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd!
Dogfennau a Dyddiadau Perthnasol Canllawiau cwblhau cais.pdf
Dyddiad cyfweliad: Wythnos yn dechrau 9 Rhagfyr 2024
Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) Byddwn yn gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Sylfaenol ar gyfer y swydd hon.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Lleoliad: Penygroes neu Dinbych a Gweithio o Gartref
Cyflog: Cystadleuol
Cytundeb: Parhaol
Oriau: 35 ayw
Dyddiad cau: 25 Tachwedd 2024
Gwneud cais:
I wneud cais, dilynwch y ddolen isod.
Os ydych chi’n cael unrhyw anhawster i gael mynediad i’r dolenni yn yr hysbyseb hon, cysylltwch â bev@charityjobfinder.co.uk