Crynodeb:

Rydym yn chwilio am Swyddog Aelodaeth i gefnogi ein gwaith Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant a chyfiawnder cymdeithasol gyda mudiadau sy’n aelodau a’r sector tai ehangach ledled Cymru. Byddwch chi’n cyd-drefnu gwasanaethau a buddion aelodaeth, yn rheoli swyddogaethau gweinyddol allweddol, ac yn cefnogi’r gwaith o gyflwyno Dyfarniad QED Tai Pawb. Bydd deiliad y swydd yn sicrhau bod aelodau wrth galon holl weithgarwch Tai Pawb.

Amdanom Ni:

Tai Pawb yw’r prif sefydliad sy’n hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y sector tai yng Nghymru. Rydym ni’n dychmygu Cymru lle mae gan bawb yr hawl i gael cartref da. Rydym ni’n cefnogi ein haelodau a’r sector tai yn ehangach i wreiddio cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhopeth maen nhw’n ei wneud, gan ddylanwadu hefyd ar y rhai sy’n llunio polisïau.

Rôl y Swydd:

Ydych chi’n  weithiwr proffesiynol trefnus sy’n canolbwyntio ar fanylion , ac yn chwilio am rôl werth chweil lle gallwch chi wneud gwahaniaeth go iawn? Ydych chi’n teimlo’n angerddol am wasanaeth i gwsmeriaid, ac oes gennych chi brofiad o ddarparu profiadau cadarnhaol a llyfn i gwsmeriaid?

Os felly, mae gennym y cyfle perffaith i chi:

Rydym yn chwilio am Swyddog Aelodaeth i gefnogi ein gwaith Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant a chyfiawnder cymdeithasol gyda mudiadau sy’n aelodau a’r sector tai ehangach ledled Cymru. Byddwch chi’n cyd-drefnu gwasanaethau a buddion aelodaeth, yn rheoli swyddogaethau gweinyddol allweddol, ac yn cefnogi’r gwaith o gyflwyno Dyfarniad QED Tai Pawb. Bydd deiliad y swydd yn sicrhau bod aelodau wrth galon holl weithgarwch Tai Pawb.

Mae ein cylch gwaith yn eithaf arbenigol ac felly nid ydym yn disgwyl i ymgeiswyr fod yn arbenigwyr ar wrth-hiliaeth a’r sector tai o’r dechrau. Ar gyfer y rôl hon, y peth pwysicaf yw darparu gwasanaeth o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar y cwsmer a sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu darparu’n ddidrafferth, wedi’u cyfuno â’r gwerthoedd cywir.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Location: Gweithio gartref (gan fynd i’r swyddfa yng Nghaerdydd a theithio o bryd i’w gilydd)

Cyflog: £28,698

Cytundeb: Parhaol

Oriau: 35

Dyddiad cau: 12pm 28 Ebrill 2025

Gwneud cai:

  • Darllenwch y Swydd-Ddisgrifiad a Manyleb y Person: yma
  • Llenwch ein ffurflen gais yma
  • Llenwch ein ffurflen monitro cydraddoldeb yma
  • Mae angen eu hanfon dros e-bost at andrea@taipawb.org  erbyn 12pm 28 Ebrill

Hysbysiad Preifatrwydd | Sut rydym yn defnyddio camau gweithredu cadarnhaol wrth recriwtio yma

Os ydych chi’n cael unrhyw anhawster i gael mynediad i’r dolenni yn yr hysbyseb hon, cysylltwch â bev@charityjobfinder.co.uk