Crynodeb:

Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig i ymuno â ni ar gyfer y rôl arbennig hon. Byddwch yn datblygu, yn trefnu ac yn cyflwyno digwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb gan gynnwys hyfforddiant a sesiynau briffio, byddwch yn cynnal digwyddiadau cyfnewid gwybodaeth, grwpiau ffocws, ac yn dylanwadu ar landlordiaid a’r Llywodraeth. Mae angen i chi fod yn hyderus yn gweithio gydag ystod eang o bobl a chymunedau amrywiol yng Nghymru.

Amdanom Ni:

Sefydliad dielw yw TPAS Cymru, a ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru. Ers 35 mlynedd, rydym wedi gweithio ledled Cymru i ddatblygu ymgysylltu effeithiol â thenantiaid a llais tenantiaid ym maes tai drwy hyfforddiant, cymorth, prosiectau ymarferol a datblygu polisi. Rydyn ni’n caru’r hyn rydyn ni’n ei wneud, ac rydyn ni’n falch o’n gwaith.

Rôl y Swydd:

Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig i ymuno â ni ar gyfer y rôl arbennig hon. Fel ein Swyddog Ymgysylltu, byddwch yn gweithio fel rhan o dîm deinamig i arwain y gwaith o gyflwyno prosiectau cyffrous, sesiynau hyfforddi, digwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb, cymorth aelodaeth a chyfathrebu. Byddwch yn sicrhau bod ein gwaith yn cael ei gynllunio, ei reoli a’i gyflwyno’n effeithiol ac yn broffesiynol.

Noder: mae hon yn rôl lle mae’r gallu i gyfathrebu’n rhugl yn y Gymraeg yn hanfodol

Cefndir y rôl hon

Ledled Cymru, mae 222,000 o aelwydydd tai cymdeithasol (tai Cyngor a Chymdeithasau Tai) a 230,000 o rentwyr preifat.

Yn TPAS Cymru, rydym eisiau i lais a phrofiadau tenantiaid fod wrth wraidd cynlluniau a chael eu clywed wrth wneud penderfyniadau yn lleol ac ar lefel genedlaethol.

Swyddog Ymgysylltu

Byddwch yn datblygu, yn trefnu ac yn cyflwyno digwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb gan gynnwys hyfforddiant a sesiynau briffio, byddwch yn cynnal digwyddiadau cyfnewid gwybodaeth, grwpiau ffocws, ac yn dylanwadu ar landlordiaid a’r Llywodraeth. Mae angen i chi fod yn hyderus yn gweithio gydag ystod eang o bobl a chymunedau amrywiol yng Nghymru.

Poeni nad ydych chi’n bodloni’r holl feini prawf? Gwnewch gais beth bynnag!!

Yn rhy aml, nid yw pobl yn gwneud cais am swydd fel hon, oherwydd eu bod yn teimlo nad ydynt yn bodloni pob rhan o’r disgrifiad swydd. Nid pobl ticio blychau ydyn ni, rydyn ni eisiau gwybod beth allwch chi ei gynnig, nid yr hyn nad oes gennych chi, a dylai eich cais adlewyrchu hynny. Os oes gennych chi’r agwedd gywir a’r sgiliau sylfaenol, rydyn ni’n cynnig cyfleoedd hyfforddi a datblygu i ddatblygu i’r rôl.

Dyma’r Swydd Ddisgrifiad a manylion am y rôl hon

Yn ogystal, dyma drosolwg o’r hyn y mae’r rôl yn ei olygu fel arfer

Gwybodaeth Ychwanegol:

Math o gytundeb: Parhaol

Lleoliad: Cartref/swyddfa hybrid ac allan gydag aelodau – wedi’i leoli o’n swyddfa ym Mae Colwyn gyda pheth teithio ledled Cymru

Oriau: 21 awr yr wythnos

Cyflog: £21,420

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: canol dydd, Dydd Mawrth, 6ed o Fai

Dyddiad cyfweliad: w/c 19 Mai 2025

Gwneud cais:

I wneud cais, dilynwch y ddolen isod.

  1. Lawr lwythwch y ffurflen gais ffurflen cyfleoedd cyfartal.
  2. Anfonwch y ddau yn ôl gyda CV i enquiries@tpas.cymru erbyn canol dydd, Dydd Mawrth 6ed o Fai

Os oes gennych gwestiynau neu os hoffech drafod y rôl yn fwy manwl, rydym yn barod i sgwrsio. Gyrrwch e-bost atom enquiries@tpas.cymru a threfnwch amser ar gyfer galwad.

Dim asiantaethau os gwelwch yn dda.

Os ydych chi’n cael unrhyw anhawster i gael mynediad i’r dolenni yn yr hysbyseb hon, cysylltwch â bev@charityjobfinder.co.uk