Crynodeb

Ydych chi yn meddwl yn strategol ac yn angerddol am hybu newid drwy dystiolaeth? Rydym yn edrych am Gynghorydd Ymchwil a Pholisi i arwain ein rhaglen ymchwil a helpu i lunio dyfodol tai cymdeithasol yng Nghymru. Byddwch yn troi data yn ddirnadaeth, gan weithio ar draws timau i ddatblygu tystiolaeth gadarn sy’n cefnogi ein safbwyntiau polisi a’n gwaith eiriolaeth. O gydlynu ymchwil i gynghori ar brosiectau a gomisynir, bydd gennych ran allweddol wrth sicrhau fod ein
hymgyrchoedd wedi seilio ar hygrededd ac effaith.

Amdanom Ni:

Cartrefi Cymunedol Cymru yw’r corff aelodaeth ar gyfer cymdeithasau tai yng Nghymru. Rydym yn cynrychioli 30 o sefydliadau dim-er-elw sy’n darparu tai cymdeithasol a gwasanaethau cysylltiedig ar draws y wlad. Mae ein haelodau yn
darparu cartrefi i dros 10% o boblogaeth Cymru ac yn ymroddedig i gyflenwi cartrefi fforddiadwy ansawdd uchel, mynd i’r afael â thlodi a gwella bywydau.

Am y Rôl

Ydych chi yn meddwl yn strategol ac yn angerddol am hybu newid drwy dystiolaeth? Rydym yn edrych am Gynghorydd Ymchwil a Pholisi i arwain ein rhaglen ymchwil a helpu i lunio dyfodol tai cymdeithasol yng Nghymru. Byddwch yn troi data yn ddirnadaeth, gan weithio ar draws timau i ddatblygu tystiolaeth gadarn sy’n cefnogi ein safbwyntiau polisi a’n gwaith eiriolaeth. O gydlynu ymchwil i gynghori ar brosiectau a gomisynir, bydd gennych ran allweddol wrth sicrhau fod ein hymgyrchoedd wedi seilio ar hygrededd ac effaith.

Yn y swydd ddeinamig a chydweithiol hon, byddwch hefyd yn arwain ar bortffolio o brosiectau polisi, gan adeiladu perthynas o ymddiriedaeth gydag aelodau, partneriaid a gwneuthurwyr penderfyniadau. Byddwch yn ein helpu i gyflwyno’r achos dros fuddsoddiad parhaus mewn tai cymdeithasol ac yn cefnogi ein cyfathrebu allanol. Os oes gennych feddwl strategol a sgiliau dadansoddi cryf ac angerdd am y sector tai cymdeithasol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!

I gael gwybodaeth ragor, gwnewch ynnill edrych ar y pecyn swydd: Job Pack Cym  Application Form Cym, Application Form Cym Equal Opportunities Form

Sut i wneud cais

Mae’r manylion dilynol yn y pecyn swydd hwn: disgrifiad swydd, manyleb person a gwybodaeth am delerau ac amodau.

  • Disgrifiad swydd, manyleb person a gwybodaeth ar delerau ac amodau.
  • Ffurflen gais, y bydd angen i chi ei llenwi yn amlinellu mewn dim mwy na 800 gair sut ydych yn ateb y meini prawf profiad a nodir yn y rhan ‘yr hyn rydym yn edrych amdano’ o’r fanyleb swydd a pham eich bod eisiau’r swydd.
  • Mae’n RHAID i chi hefyd gyflwyno CV wedi ei deilwra yn ymwneud â’ch cais am y swydd hon (dim mwy na thair tudalen).
  • Ffurflen cyfle cyfartal. Ni chaiff y ffurflen hon ei defnyddio ar unrhyw gam o’r broses recriwtio a chaiff ei gwahanu oddi wrth eich ffurflen gais yn syth ar ôl ei derbyn. Bydd unrhyw wybodaeth a roddir ar y ffurflen yn parhau’n gyfrinachol a dim ond ar gyfer dibenion monitro i asesu effeithlonrwydd ein polisi cyfle cyfartal y caiff ei defnyddio.

Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch os gwelwch yn dda â, Elly Lock

Dylid anfon y ffurflen wedi’i llenwi, CV a’r ffurflen cyfle cyfartal drwy e-bost wedi’i marcio yn Preifat a Chyfrinachol – Cynghorydd Ymchwil a Pholisi to recruitment@chcymru.org.uk erbyn 5pm dydd Llun, 29ain Medi 2025

Caiff pob ffurflen ei chadw am chwe mis yn unol ag arfer gorau i sicrhau y gallwn roi adborth i ymgeiswyr aflwyddiannus ac i gefnogi’r sefydliad pe byddid yn dod â hawliad yn ei erbyn.

Additional Information:

Gwybodaeth Ychwanegol:
Lleoliad: Gweithio o gartref
Cyflog: £39,000 y flwyddyn
Cytundeb: Llawn amser
Oriau: Mae’r rôl yn seiliedig ar 35 awr yr wythnos – gwaith hyblyg.
Dyddiad cau: 5pm, 29ain Medi 2025
Dyddiad cyfweliad: 9fed Hydref 2025

Gwneud cais:

I wneud cais, dilynwch y ddolen isod.

Os ydych chi’n cael unrhyw anhawster i gael mynediad i’r dolenni yn yr hysbyseb hon, cysylltwch â  bev@charityjobfinder.co.uk