Mae Ceri Anne Evans yn gynghorydd gwasanaeth cwsmeriaid gyda Chymdeithas Tai Cymuned Caerdydd (CCHA)
“Yn 2015 roeddwn yn fam ifanc sengl ac yn denant yn byw yn y gymuned leol. Roedd yn gyfnod anodd i mi, roedd bywyd bob dydd yn galed, arian yn brin ac roeddwn yn brwydro gydag iselder. Fe wnaeth CCHA fy helpu i gael lle ar raglen gwirfoddoli a fy nghefnogi drwy gwrs hyfforddi ar sgiliau cyfweld. Drwy’r hyfforddiant yma a thrwy wirfoddoli mewn canolfan gymunedol leol, fe wnes fagu digon o hyder i wneud cais am swydd derbynfa yn CCHA ac roeddwn wrth fy modd i’w chael.
Fe wnes barhau i gael cefnogaeth a datblygu sgiliau drwy fentoriaid yn y sector tai ac yn 2016 cefais swydd arall fel cymhorthydd yn y tîm cymunedol ac adfywio. Ond wnes i ddim stopio yno! Mae fy hyder a sgiliau yn parhau i dyfu ac yn 2017 symudais i swydd barhaol fel Cynghorydd Gwasanaeth Cwsmeriaid, gan weithio ar faterion gweithredol rheng flaen sy’n cefnogi tenantiaid.
Rwy’n dal i fod yn denant ac rwy’n teimlo fod y sector tai wedi rhoi’r gefnogaeth a diben i mi wneud rhywbeth o fy mywyd i fi fy hunan a fy nheulu. Rwy’n mwynhau fy swydd bresennol yn yr adran gwasanaeth cwsmeriaid. Rwy’n teimlo y gallaf wirioneddol helpu pobl sy’n wynebu cyfnod anodd, ac mae’r gwaith a wnaf yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl.
Rwy’n edrych ymlaen at weld lle’r aiff fy ngyrfa mewn tai â fi, mae’r posibiliadau yn ddi-ddiwedd.”