Hannah Davies yw Cymhorthydd Personol Prif Weithredydd Cymdeithas Tai Rhondda ac mae wrth ei bodd gyda’r amrywiaeth yn ei swydd.
“Lwc pur oedd i mi ddechrau gweithio yn y maes tai. Roeddwn wedi bod yn gweithio yn y Gwasanaeth Sifil ond yn edrych am ddechrau newydd. Neidiais ar y cyfle pan welais hysbyseb swydd Cymhorthydd Personol Prif Weithredydd Cymdeithas Tai Rhondda. Roeddwn bob amser wedi bod eisiau gweithio mewn sefydliad sy’n helpu pobl ac yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywyd pobl, felly roedd hyn yn ymddangos yn berffaith i fi. Roedd y swydd yn swnio mor ddiddorol hefyd.
Y bobl yn bendant yw’r peth gorau am weithio mewn tai cymdeithasol. Nid dim ond y staff rwy’n gweithio gyda nhw bob dydd rwy’n ei feddwl, ond y tenantiaid hefyd. Mae yna deimlad go iawn o gymuned, sy’n llawn o bobl a straeon diddorol.
Doedd gen i ddim profiad o gwbl o dai cymdeithasol cyn dechrau gweithio yng Nghymdeithas Tai Rhondda, tu mewn na’r tu allan i’r gwaith. Ond does dim dau ddiwrnod yr un peth i mi nawr, un diwrnod rwy’n gwneud yoga gyda’n tenantiaid fel rhan o raglen llesiant, y nesaf rwy’n adolygu llywodraethiant gyda’r Bwrdd. Mae’n sicr yn swydd ddiddorol ac amrywiol!”