Crynodeb:

Ydych chi ar eich gorau wrth gydweithio â phartneriaid strategol ar nodau cyffredin? Allwch chi gydbwyso cefnogaeth a her adeiladol ar gyfer ein sylfaen aelodaeth gynyddol? Ydych chi’n canolbwyntio ar atebion yn eich ffordd o feddwl?

Amdanom Ni:

 

Tai Pawb yw’r prif sefydliad cenedlaethol sy’n hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y sector tai. Mae gennyn ni weledigaeth o Gymru lle mae gan bawb yr hawl i gael cartref da.
Rydyn ni’n cefnogi ac yn gweithio gyda’n haelodau i’w helpu i roi syniadau ar waith, rydyn ni’n dylanwadu ar lunwyr polisïau i sicrhau bob polisïau tai yn deg, a ni yw’r arweinwyr syniadau ar faterion cydraddoldeb, amrywiaeth a hawliau dynol ar gyfer y sector tai a’r tu hwnt.

Rôl y Swydd:

Rydym yn chwilio am rywun i roi arweiniad strategol a gweithredol ar wasanaethau aelodau Tai Pawb, creu incwm/codi arian a gwaith prosiect partneriaeth. Bydd deiliad-swydd yn arwain ac yn llywio datblygiad busnes newydd ar gyfer Tai Pawb, gan adeiladu ar enw da’r sefydliad fel prif elusen Cymru ym maes cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym maes tai. Bydd deiliad-swydd yn rheolwr llinell uniongyrchol ar y Swyddog Cyllid a Gweinyddu, y Rheolwr Ariannu a Phartneriaethau a’r Rheolwr Aelodaeth. Bydd angen i chi dderbyn y syniad, mewn sefydliad bach, nad yw rôl o’r math hwn byth yn gyfyngedig i oruchwyliaeth strategol ac y gall gynnwys cymryd rhan mewn darpariaeth wirioneddol yn yr adrannau yr ydych yn eu harwain. Mae’r rôl hon yn rhan o dîm arwain Tai Pawb ochr yn ochr â’r Prif Weithredwr a Phennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Lleoliad: Cardiff

Cyflog: £42,542

Oriau: gweithio o bell ac yng Nghaerdydd

Dyddiad cau: 12pm (hanner dydd), dydd Llun 21 Hydref 2024

To apply:

  • Disgrifiad Swydd: yma
  • I wneud cais am y swydd hon, anfonwch ffurflen gais a’r ffurflen monitro cydraddoldeb at; andrea@taipawb.org erbyn hanner dydd, dydd Llun 21 Hydref
  • Cyfweliad 1: Dydd Mercher 20 Tachwedd
  • Cyfweliad 2: Dydd Mawrth 26 Tachwedd

Os ydych chi’n cael unrhyw anhawster i gael mynediad i’r dolenni yn yr hysbyseb hon, cysylltwch â bev@charityjobfinder.co.uk