Crynodeb:

Rydym ni’n chwilio am rywun i arwain ar y gwaith o ymgysylltu ag aelodau, rheoli cylchred oes yr aelodaeth, darparu ein nod ansawdd QED, datblygu a chydlynu hyfforddiant a digwyddiadau gan gynnwys ein gwasanaeth e ddysgu newydd. Byddwch chi’n gweithio’n agos gydag aelodau o dîm Tai Pawb, gan chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gryfhau a chadw ein sylfaen aelodaeth yng Nghymru. Byddwch chi’n sicrhau bod ein gwasanaethau yn safonol ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Amdanom Ni:

Tai Pawb yw’r prif sefydliad sy’n hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y sector tai yng Nghymru. Rydym ni’n dychmygu Cymru lle mae gan bawb yr hawl i gael cartref da. Rydym ni’n cefnogi ein haelodau a’r sector tai yn ehangach i wreiddio cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhopeth maen nhw’n ei wneud, gan ddylanwadu hefyd ar y rhai sy’n llunio polisïau.

Rôl y Swydd:

Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â Tai Pawb gan ein bod ar drothwy blwyddyn olaf ein strategaeth bum mlynedd ac ar fin dechrau ar y broses o ddatblygu strategaeth newydd ar y cyd â’n staff a’n rhanddeiliaid.

Rydym ni’n chwilio am rywun i arwain ar y gwaith o ymgysylltu ag aelodau, rheoli cylchred oes yr aelodaeth, darparu ein nod ansawdd QED, datblygu a chydlynu hyfforddiant a digwyddiadau gan gynnwys ein gwasanaeth e ddysgu newydd. Byddwch chi’n gweithio’n agos gydag aelodau o dîm Tai Pawb, gan chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gryfhau a chadw ein sylfaen aelodaeth yng Nghymru. Byddwch chi’n sicrhau bod ein gwasanaethau yn safonol ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Un o’r pethau gwych am weithio mewn sefydliad bychan a dynamig fel Tai Pawb yw eich bod chi’n cael cyfle i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau, ehangu eich rhwydweithiau a gweld dylanwad uniongyrchol eich gwaith. Byddwch chi’n gallu dylanwadu ar gyfeiriad y cwmni, ac mae penderfyniadau yn cael eu gwneud yn gyflym. Rydym ni’n falch o fod yn arloeswyr sydd wrthi’n treialu Wythnos Waith 4 Diwrnod – yn seiliedig ar egwyddor o gyflawni 100% o’r gwaith, mewn 80% o’r amser, am 100% o’r cyflog.
Mae ein cylch gwaith yn eithaf arbenigol ac felly nid ydym ni’n disgwyl i ymgeiswyr fod yn arbenigwyr ar wrth-hiliaeth a’r sector tai o’r dechrau. Yr hyn sydd bwysicaf ar gyfer y swydd hon yw cael profiad o ymgysylltu a darparu gwasanaeth, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd cywir.

Lawrlwythwch y pecyn recriwtio yma

Additional Information:

Lleoliad: Gweithio o bell a theithio achlysurol ardraws Cymru ac i gyfarfodydd staff yn swyddfa Caerdydd

Cyflog: £37,132 y flwyddyn

Cytundeb: Parhaol

Oriau: 35 awr yr wythnos (28 awr ar hyn o bryd am ein bod ni’n treialu wythnos pedwar diwrnod, lle byddwch chi’n derbyn 100% o’r cyflog am 80% o’r oriau a 100% o’r canlyniadau. Nid ydyn ni’n gweithio ar ddydd Gwener.

Dyddiad cau: 10yb 27 Ionawr, 2025

Cyfweliad 1 (grŵp): 5 Chwefror, 2025

Cyfweliad 2 (unigol): 10 Chwefror, 2025

Gwneud cais:

I wneud cais am y swydd hon,anfonwch eich ffurflen gais a’chffurflen fonitro cydraddoldeb at Andrea@taipawb.org erbyn 27/01/25 (10am)

Os ydych chi’n cael unrhyw anhawster i gael mynediad i’r dolenni yn yr hysbyseb hon, cysylltwch â bev@charityjobfinder.co.uk