Crynodeb:  Housing Managers x 2

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig ac egniol i weithio gyda’r tîm Cynnal a Chadw. Mae’r tîm yn darparu’r holl waith atgyweirio a chynnal a chadw i eiddo gwag a thenantiaid ar gyfer y Grŵp, yn ogystal â gwneud gwaith buddsoddi drwy raglen gynlluniedig.  Bydd y Rheolwr yn cymryd cyfrifoldeb ac atebolrwydd am ddarparu buddsoddiad arfaethedig yn effeithlon ac effeithiol, atgyweiriadau ymatebol a gwaith eiddo gwag i sicrhau bod targedau ac amserlenni y cytunwyd arnynt yn cael eu bodloni neu eu rhagori arnynt.

Amdanom Ni:

Mae Grŵp Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, sy’n ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014.

​Rydym yn gweithio’n galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybu’r iaith Gymraeg gyda balchder.

Rydym am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau i’r eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd sy’n sicrhau dyfodol cynaliadwy.

Rôl y Swydd:

Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod.

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig ac egniol i weithio gyda’r tîm Cynnal a Chadw. Mae’r tîm yn darparu’r holl waith atgyweirio a chynnal a chadw i eiddo gwag a thenantiaid ar gyfer y Grŵp, yn ogystal â gwneud gwaith buddsoddi drwy raglen gynlluniedig.  Bydd y Rheolwr yn cymryd cyfrifoldeb ac atebolrwydd am ddarparu buddsoddiad arfaethedig yn effeithlon ac effeithiol, atgyweiriadau ymatebol a gwaith eiddo gwag i sicrhau bod targedau ac amserlenni y cytunwyd arnynt yn cael eu bodloni neu eu rhagori arnynt.

Bydd y Rheolwr hefyd yn sicrhau bod y tîm yn archwilio cartrefi a safleoedd adeiladu yn ystod y cyfnod cyn adeiladu, cyfnod y gwaith ac ar ôl ei gwblhau i asesu cydymffurfiaeth â Iechyd a Diogelwch, gofynion contractau a safonau ansawdd a sicrhau bod yr holl DPA yn cael eu monitro a’u bodloni.

Byddwch yn darparu’r safonau uchaf posibl o wasanaeth cwsmer gan sicrhau bod ein cwsmeriaid yn gallu byw mewn cartrefi o’r safonau gorau posibl.

Mae’r swydd hon yn gofyn am Reolwr deinamig sydd â sgiliau arweinyddiaeth ysgogol a chynhwysol a gallu gweithredu a rheoli newid yn effeithiol.

Rydym yn chwilio am rywun i adlewyrchu ein gwerthoedd ac sydd â’r un ysfa a ni i ddarparu gwasanaeth rhagorol, lle mae ein tenantiaid yn greiddiol i’n gwaith. Os oes gennych yr angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i’n dyfodol, hon yw’r swydd i chi.

Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysyllwch â Rhodri Owen, Pennaeth Rheoli Asedau ar 0300 111 2122.

Datblygiad Personol: 

Os oes gennych gymwysterau proffesiynol a’ch bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol i’ch corff aelodaeth, byddwn yn talu un o’r rhain bob blwyddyn i’ch helpu i aros yn gysylltiedig â’r wybodaeth a’r addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau i’n holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chi’n gweithio gyda ni byddwn ni’n buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd!

Gwybodaeth Ychwanegol:

Lleoliad: Penygroes neu Dinbych a Gweithio o Gartref

Cyflog: Cystadleuol

Cytundeb: Parhaol

Oriau: 35 ayw

Dyddiad cau: 21/04/2025

Dyddiad cau: 01/05/2025

Gwneud cais:

Lawrlwythor disgrifiad swydd yma a dilynwch y ddolen hon ar gyfer y pecyn gwybodaeth Job Openings

I wneud cais, dilynwch y ddolen isod.

Os ydych chi’n cael unrhyw anhawster i gael mynediad i’r dolenni yn yr hysbyseb hon, cysylltwch â  bev@charityjobfinder.co.uk