Mae’r Telerau ac Amodau isod yn rheoli’ch defnydd o wefan Canfod Swyddi Elusennol (Cwmni) p’un a ydych yn defnyddio ein gwasanaeth fel Ceisiwr Gwaith, Recriwtiwr, neu fel Hysbysebwr.

Mae’r telerau ac amodau hyn yn rheoli’ch defnydd o’r wefan hon; trwy ddefnyddio’r wefan hon, rydych chi’n derbyn y telerau a’r amodau hyn yn llawn. Os ydych yn anghytuno â’r telerau a’r amodau hyn neu unrhyw ran o’r telerau a’r amodau hyn, ni ddylech ddefnyddio’r wefan hon.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Telerau ac Amodau, cysylltwch â ni

E-bostiwch jane@charityjobfinder.co.uk Rhif Ffôn 07557 132 390.

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Drwy ddefnyddio’r wefan hon a chytuno gyda’r telerau a’r amodau hyn, rydych chi’n rhoi caniatâd i Ganfod Swyddi Elusennol ddefnyddio cwcis yn unol â thelerau ein Polisi Preifatrwydd / Polisi Cwcis, y gellir dod o hyd i gopi ohono ar y wefan.

Defnyddio’r wefan hon

Gallwch weld, lawrlwytho at ddibenion dros dro yn unig, ac argraffu tudalennau o’r wefan ar gyfer eich defnydd personol, yn amodol ar y cyfyngiadau a nodir isod ac mewn mannau eraill yn y telerau a’r amodau hyn.

Gallwch adalw a dangos cynnwys y wefan ar sgrin gyfrifiadur, storio cynnwys o’r fath ar ffurf electronig ar ddisg (ond nid ar weinydd neu ddyfais storio arall sy’n gysylltiedig â rhwydwaith) neu argraffu un copi o gynnwys o’r fath ar gyfer eich defnydd personol, anfasnachol, cyn belled â’ch bod yn cadw pob hawlfraint a hysbysiad perchnogol yn gyfan gwbl.

Ni allwch

  • ail-gyhoeddi deunydd o’r wefan hon (yn cynnwys ail-gyhoeddi ar wefan arall);
  • gwerthu, rhentu neu is-drwyddedu deunydd o’r wefan;
  • atgynhyrchu, addasu, copïo neu ddosbarthu unrhyw ddeunydd neu gynnwys ar y Wefan i’w defnyddio at ddibenion masnachu, heb ganiatâd ysgrifenedig gan y Cwmni.
  • ail-ddosbarthu deunydd o’r wefan hon [ac eithrio ar gyfer cynnwys sydd ar gael yn benodol ar gyfer ail-ddosbarthu]

Ceiswyr gwaith

Gellir defnyddio’r bwrdd swyddi hwn at ddibenion ceisio cyflogaeth gan unrhyw geisiwr gwaith, am ddim.

Er ein bod yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth ar y wefan hon yn gywir, mae’r rhan fwyaf o’r wybodaeth, yn enwedig cyfleoedd swyddi, yn cael eu cyflenwi gan drydydd parti ac nid ydym yn gallu gwirio cywirdeb y wybodaeth honno. Nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd sy’n deillio o unrhyw anghywirdeb neu hepgoriad mewn unrhyw wybodaeth ar y wefan hon.

Er ein bod yn ceisio sicrhau bod perfformiad y bwrdd swyddi hwn yn gyson, nid yw’r rhyngrwyd bob amser yn gyfrwng sefydlog, a gall gwallau, hepgoriadau, amhariadau ar wasanaeth ac oedi ddigwydd ar unrhyw adeg. Nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd sy’n deillio o unrhyw gamgymeriadau, hepgoriadau, amhariadau neu oedi o’r fath, neu unrhyw rwymedigaeth neu gyfrifoldeb parhaus i weithredu’r bwrdd swyddi hwn neu ddarparu’r gwasanaeth a gynigir.

Gallwch danysgrifio i Hysbysiadau Swydd trwy ein platfform. Rhaid i chi sicrhau bod y manylion a roddir gennych wrth gofrestru, neu ar unrhyw adeg, yn gywir ac yn gyflawn. Yna byddwch yn derbyn Hysbysiadau Swyddi’n rheolaidd. Gallwch ddad-danysgrifio o’r negeseuon cyffredinol ar unrhyw adeg – gweler ein Polisi Preifatrwydd sydd ar gael ar ein

gwefan.

Cwcis

Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR)

Mae’r Cwmni yn casglu ac yn prosesu eich gwybodaeth bersonol yn unol â’r hysbysiad preifatrwydd hwn, ac yn unol â’r Rheoliad diogelu data perthnasol a chyfreithiau.

Mae’r GDPR yn gymwys gyda ‘data personol’ sy’n golygu unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag unigolyn adnabyddadwy, y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, yn enwedig drwy gyfeirio at ddynodydd.

Gweler ein Polisi Preifatrwydd ar y wefan hon

Gwasanaethau Recriwtiwr

Rydym yn darparu platfform i alluogi ceiswyr gwaith a recriwtwyr ddod i gysylltiad, ac nid ydym yn gwirio neu’n monitro’r ceiswyr gwaith sy’n defnyddio ein gwefan, ac rydych yn cytuno na fyddwch yn ein dal yn atebol mewn perthynas ag unrhyw golled, niwed neu draul y byddwch yn ei ddioddef o weithredoedd neu hepgoriadau’r ceisiwr gwaith.

Mae recriwtwyr yn sicrhau bod hysbysebion swyddi y maent yn eu cyflwyno i’w cyhoeddi yn wir, yn gywir, yn gyflawn ac nid yn gamarweiniol ar gyfer swyddi bona fide

Nid ydym yn gwarantu y bydd recriwtwyr yn derbyn unrhyw geisiadau mewn perthynas â hysbysebion swyddi

Fel rhan o’n hymrwymiad i roi’r ymateb gorau posibl i gwsmeriaid, rydym yn cadw’r hawl i ddiwygio rhai o’r manylion swydd rydych chi’n eu cyflenwi er mwyn gwneud y gorau o’ch hysbyseb.

Cewch eich hysbysu trwy e-bost pan fydd eich hysbysebion swyddi wedi mynd yn fyw ar y Safle.

Cywiro gwallau ar ôl eu cofnodi: Rydych chi’n gyfrifol am sicrhau bod eich hysbyseb yn gywir a rhaid rhoi gwybod i ni os oes angen unrhyw newidiadau.

Bydd pob hysbyseb swydd hefyd yn ymddangos ar Fwrdd Swyddi Cymorth i Fenywod Cymru http://www.welshwomensaid.org.uk/joinus/other-vacancies/

Bydd ein ffioedd o ran ein gwasanaethau’n cael eu dangos ar y wefan a’u diweddar o bryd i’w gilydd.

Mae’r holl brisiau ar ein gwefan heb TAW.

Talir am Wasanaethau drwy drosglwyddiad banc. Byddwn yn anfon anfoneb electronig atoch ar ôl diwrnod dechrau eich hysbyseb. Anfonir yr anfoneb i’r cyfeiriad e-bost y gwnaethoch ei roi, fel eich cyswllt cyfrifon taladwy, neu fel y cytunir fel arall.

Dolenni cyswllt i wefannau eraill

Gall ein gwefan gynnwys dolenni cyswllt i wefannau eraill o ddiddordeb. Os ydych chi’n defnyddio’r dolenni i adael ein gwefan, nodwch nad oes gennym unrhyw reolaeth dros y wefan honno. Ni allwn fod yn gyfrifol am ddiogelu a gwneud yr wybodaeth a roddwch ar safleoedd o’r fath yn breifat, gan nad yw safleoedd o’r fath yn cael eu rheoli gan y Polisi Preifatrwydd hwn. Dylech wirio’r Polisi Preifatrwydd sy’n berthnasol i’r wefan dan sylw. Nid yw cynnwys unrhyw ddolenni cyswllt o reidrwydd yn golygu argymell neu gefnogi’r safbwyntiau a fynegir ynddynt.

Google Analytics

Pan fydd rhywun yn ymweld ag www.housingjobs.wales rydym yn defnyddio gwasanaeth trydydd parti, Google Analytics, i gasglu gwybodaeth log rhyngrwyd safonol a manylion ynghylch patrwm ymddygiad ymwelwyr. Rydym yn gwneud hyn i ganfod pethau fel nifer yr ymwelwyr i rannau amrywiol o’r safle, ac i’n galluogi i roi gwybod am gyfraddau ymateb i swyddi gwag penodol. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei phrosesu mewn ffordd nad ydyw’n adnabod unrhyw un yn unig. Nid ydym yn gwneud unrhyw ymgais i ganfod hunaniaeth y rhai sy’n dod i’n gwefan, ac nid yn caniatáu i Google wneud hynny.

Argaeledd y wefan

Gwneir pob ymdrech i gadw’r wefan i redeg mor llyfn â phosibl. Fodd bynnag, nid ydym yn gyfrifol am unrhyw adeg pan na fydd y wefan ar gael am gyfnod dros drps, ac ni fyddwn yn atebol amdani, oherwydd materion technegol y tu hwnt i’n rheolaeth. Byddwn yn ceisio cywiro unrhyw ddiffygion cyn gynted ag y gallwn o fewn rheswm.

Weithiau, efallai y bydd y wefan yn cael gwaith cynnal a chadw, ac felly bydd y gwasanaeth yn cael ei adfer cyn gynted ag y bo bosibl o fewn rheswm.

Ymwadiad

Er ein bod wedi gwneud pob ymgais i sicrhau bod y wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn y wefan hon wedi dod o ffynonellau dibynadwy, nid yw’r cwmni’n gyfrifol am unrhyw gamgymeriadau neu hepgoriadau, nac am y canlyniadau a gafwyd o ddefnyddio’r wybodaeth hon, a dylai defnyddwyr wirio a gwneud ymholiadau annibynnol cyn dibynnu arni. Os caiff y Cwmni wybod am unrhyw newidiadau i’r cynnwys ar y wefan hon, byddwn yn ei chywiro cyn gynted ag y gallwn o fewn rheswm.

Os ydym yn torri’r Ymwadiad hwn, byddwn ond yn gyfrifol am unrhyw golledion a gewch oherwydd eu bod yn ganlyniad rhagweladwy, ac i’r graddau eu bod yn hynny, i’r ddwy ochr, ar yr adeg y byddwch ar y wefan. Ni fydd ein hatebolrwydd, mewn unrhyw achos, yn cynnwys colledion busnes fel data coll, elw coll neu amhariad ar fusnes.

Ni fydd y Telerau ac Amodau hyn yn cyfyngu nac yn effeithio ar ein rhwymedigaeth os bydd rhywbeth a wnawn yn esgeulus yn achosi marwolaeth neu anaf personol.

Diwygiadau

Efallai y byddwn yn diweddaru’r Telerau ac Amodau hyn o bryd i’w gilydd am resymau rheoleiddio cyfreithiol neu i ganiatáu gweithrediad priodol o’r wefan, a byddwn yn gwneud ymdrechion rhesymol i roi gwybod i chi am y newidiadau. Bydd y newidiadau yn berthnasol i’r defnydd o’r wefan ar ôl i ni roi gwybod i chi. Os nad ydych am dderbyn y Telerau ac Amodau newydd, ni ddylech barhau i ddefnyddio’r wefan. Os ydych chi’n parhau i ddefnyddio’r wefan ar ôl y dyddiad y daw’r newid i rym, mae’ch defnydd o’r wefan yn nodi bod eich cytundeb yn cael ei rwymo wrth y Telerau ac Amodau newydd.

Diweddarwyd y Telerau ac Amodau ar 25 Ebrill 2018