Crynodeb:
Cynorthwyo i ddarparu gwasanaeth Barcud ym maes Gwaith Atgyweirio Ymatebol ar gyfer eiddo Barcud, er mwyn sicrhau bod y Gymdeithas yn cyflawni ei rhwymedigaethau busnes a’i hamcanion ac yn diwallu anghenion ei thenantiaid.
Amdanom Ni:
Cymdeithas dai deinamig a ffurfiwyd drwy uno yn 2020 Barcud Cyf. Mae ein sefydliad yn cyfuno arweinyddiaeth gref, rheoli tai, ac arbenigedd datblygu i greu busnes uchelgeisiol, blaengar. Mae’r uniad strategol hon wedi gosod Barcud mewn sefyllfa i gymryd camau hyderus i ddatblygu tai fforddiadwy i’w rhentu a’u prynu a darparu gwasanaethau cymorth tai i’n tenantiaid. Mae hefyd wedi caniatáu inni feithrin mwy o gyfleoedd cyflogaeth o ansawdd uchel ar gyfer canolbarth a gorllewin Cymru. Mae Barcud yn ymroddedig i gefnogi busnesau lleol ac ail-fuddsoddi yn y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Ymunwch â ni wrth i ni weithio tuag at adeiladu dyfodol gwell, mwy cynaliadwy i bawb
Darganfyddwch fwy amdanom yma About us – Barcud
Rôl y Swydd:
Cyfrifoldebau Allweddol – Gwaith Atgyweirio Ymatebol:
- Darparu gwasanaeth amserol o safon ym maes Gwaith Atgyweirio Ymatebol, sy’n canolbwyntio ar y cwsmer.
- Bod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau gan denantiaid ynghylch gwaith atgyweirio, gan ymdrin yn broffesiynol â cheisiadau tenantiaid ac egluro materion technegol yn glir ac yn gryno.
- Gweithio gyda staff y tîm Gwasanaethau i Gwsmeriaid i ddarparu gwasanaeth cwsmer cadarn i denantiaid yng nghyswllt Gwaith Atgyweirio Ymatebol.
- Monitro cynnydd gwaith atgyweirio, gan roi’r wybodaeth ddiweddaraf i denantiaid pan fydd unrhyw oedi, ac egluro i denantiaid beth sydd wedi achosi’r oedi hwnnw.
- Cynorthwyo i ddatblygu a gweithredu prosesau a gweithdrefnau ar gyfer Gwaith Atgyweirio Ymatebol.
- Codi ac awdurdodi archebion am Waith Atgyweirio Ymatebol yn unol â lefelau awdurdod a ddirprwywyd ar gyfer y swydd, gan ofyn i staff uwch gymeradwyo gwaith sy’n uwch na’r trothwyon a ddiffiniwyd.
- Paratoi rhaglenni gwaith ac archebion gwaith ar gyfer amrywiaeth o waith atgyweirio.
- Rhoi cyngor ynghylch Gwaith Atgyweirio Ymatebol i denantiaid a’r Gymdeithas yn ehangach.
- Amlinellu i denantiaid a staff Barcud beth y mae’r Gymdeithas yn gyfrifol amdano a beth y mae tenantiaid yn gyfrifol amdano o safbwynt gwaith atgyweirio.
- Sicrhau bod gwaith atgyweirio brys yn cael sylw buan, gan gynnwys unrhyw waith y mae tenantiaid yn adrodd yn ei gylch y tu allan i oriau gwaith arferol, gan geisio sicrhau bob amser bod diogelwch tenantiaid yn brif flaenoriaeth.
- Cysylltu â darparwyr sy’n gwneud Gwaith Atgyweirio Ymatebol, gan sicrhau eu bod yn ymwybodol o safonau a gweithdrefnau Barcud, a monitro gwaith gan adrodd wrth staff uwch ynghylch unrhyw waith o safon wael a gyflawnir gan ddarparwyr.
- Gweithio gyda staff caffael i gael darparwyr gwasanaeth newydd pan fydd angen.
- Cadw cofnodion ynghylch gwaith atgyweirio, gan sicrhau bod yr holl ddata’n gywir a’i fod yn dangos y gwaith a gyflawnwyd.
- Dadansoddi cofnodion ynghylch gwaith atgyweirio, gan geisio nodi ffyrdd o wella’r gwasanaeth.
- Cynorthwyo i ymgynghori â phreswylwyr ynghylch cyflawni gwaith atgyweirio, gan geisio sicrhau bod gwaith yn cael ei gyflawni gan amharu cyn lleied ag sy’n bosibl ar denantiaid a’u cartrefi.
- Gweithio ar y cyd â staff Rheoli Tai i nodi eiddo gwag yn gynnar ac i sicrhau ei fod yn cael sylw’n fuan a bod gwaith cynnal a chadw’n cael ei gyflawni’n gyflym.
- Cynorthwyo i asesu a chyflawni gwaith ar eiddo gwag, gan sicrhau bod eiddo gwag yn cael sylw’n fuan a’i fod yn cael ei ailosod yn gyflym.
- Darparu cymorth i dîm Gwaith Atgyweirio Ymatebol y Gorllewin yn ystod cyfnodau prysur.
- Dirprwyo dros yr Uwch-swyddog Gwaith Atgyweirio Ymatebol pan fydd angen.
- Cynorthwyo i ddarparu gwasanaeth brys/y tu allan i oriau gwaith arferol ar sail rota, pan fydd angen.
- Cynnal arolygon o gyflwr y stoc, arolygon Safon Ansawdd Tai Cymru ar eiddo’r Gymdeithas ac arolygon o ystadau yn ôl yr angen.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cyflog: £31,570 – £35,583
Oriau a math o gontract: 37 Awr, Llawn Amser, parhaol
Yn atebol i’r canlynol: Pennaeth Atgyweirio Ymatebol ac Eiddo Gwag.
Adran: Cartrefi Diogel
Lleoliadd: Ceredigion
Lawrlwythwch y disgrifiad swydd a’r fanyleb person yma
Gwneud cais:
Dyddiad cau: 9 Mai 2025 (canol dydd)
(Dylech nodi na dderbynir ceisiadau a ddaw i law ar ôl y dyddiad a’r amser cau)
Dyddiad y Cyfweliad: 20 Mai 2025
I wneud cais, dilynwch y ddolen isod.
Os ydych chi’n cael unrhyw anhawster i gael mynediad i’r dolenni yn yr hysbyseb hon, cysylltwch â bev@charityjobfinder.co.uk