Crynodeb: Housing Managers x 2
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, egnîol a deinamig i sicrhau rheolaeth effeithiol o Awel y Dyffryn a meithrin naws gymunedol a chefnogol mewn amgylchedd diogel. Byddwch yn gweithredu fel y prif gyswllt i’r Gymdeithas ar gyfer tenantiaid, darpar denantiaid a’r gymuned leol gan sicrhau gwasanaethau rheolaeth tai â chefnogaeth ragorol i denantiaid.
Amdanom Ni:
Mae Grŵp Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, sy’n ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014.
Rydym yn gweithio’n galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybu’r iaith Gymraeg gyda balchder.
Rydym am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau i’r eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd sy’n sicrhau dyfodol cynaliadwy.
Rôl y Swydd:
Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, egnîol a deinamig i sicrhau rheolaeth effeithiol o Awel y Dyffryn a meithrin naws gymunedol a chefnogol mewn amgylchedd diogel. Byddwch yn gweithredu fel y prif gyswllt i’r Gymdeithas ar gyfer tenantiaid, darpar denantiaid a’r gymuned leol gan sicrhau gwasanaethau rheolaeth tai â chefnogaeth ragorol i denantiaid. Byddwch yn darparu cefnogaeth briodol i denantiaid i’w galluogi i gynnal eu tenantiaeth yn llwyddiannus; parchu a hyrwyddo eu hawliau, dewisiadau a’u hannibyniaeth. ‘Rydym yn chwilio am unigolyn all gydweithio’n effeithiol gyda’r darparwyr gofal ar safle ynghyd ag asiantaethau eraill sy’n darparu gwasanaethau gofal, cefnogaeth neu iechyd er mwyn cwrdd ag anghenion y tenantiaid a sicrhau rhediad esmwyth y cynllun.
Os oes gennych yr angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol ein tenantiaid, hon yw’r swydd i chi.
Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysyllwch â Sian Ellis, Arweinydd Tîm Pobl Hŷn ar 0300 111 2122.
Datblygiad Personol:
Os oes gennych gymwysterau proffesiynol a’ch bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol i’ch corff aelodaeth, byddwn yn talu un o’r rhain bob blwyddyn i’ch helpu i aros yn gysylltiedig â’r wybodaeth a’r addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau i’n holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chi’n gweithio gyda ni byddwn ni’n buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd!
Gwybodaeth Ychwanegol:
Lleoliad: Awel y Dyffryn, Dinbych
Cyflog: £28,428 – £31,995
Cytundeb: Parhaol
Oriau: 35 ayw
Dyddiad cau: 05/05/2025
Dyddiad cyfweliad: 14/05/2025
Gwneud cais:
Lawrlwythwch y disgrifiad swydd yma a dilynwch y ddolen hon ar gyfer y pecyn gwybodaeth Job Openings
I wneud cais, dilynwch y ddolen isod.
Os ydych chi’n cael unrhyw anhawster i gael mynediad i’r dolenni yn yr hysbyseb hon, cysylltwch â bev@charityjobfinder.co.uk