Crynodeb: Housing Managers x 2
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig ac egniol i ddatblygu y strategaethau pobl a’r prosesau sydd eu hangen i alluogi Grŵp Cynefin allu cyrraedd ei hamcanion corfforaethol. Byddwch yn goruchwilio holl brosesau ac ymarferion adnoddau dynol Grŵp Cynefin ac yn arwain a rheoli y Tîm Adnoddau Dynol.
Amdanom Ni:
Mae Grŵp Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, sy’n ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014.
Rydym yn gweithio’n galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybu’r iaith Gymraeg gyda balchder.
Rydym am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau i’r eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd sy’n sicrhau dyfodol cynaliadwy.
Rôl y Swydd:
Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig ac egniol i ddatblygu y strategaethau pobl a’r prosesau sydd eu hangen i alluogi Grŵp Cynefin allu cyrraedd ei hamcanion corfforaethol. Byddwch yn goruchwilio holl brosesau ac ymarferion adnoddau dynol Grŵp Cynefin ac yn arwain a rheoli y Tîm Adnoddau Dynol.
Mae’r swydd hon yn gofyn am Reolwr deinamig sydd â phrofiad helaeth yn y maes Adnoddau Dynol ac ymrwymiad cryf i feithrin diwylliant gweithle cynhwysol sy’n gwerthfawrogi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI).
Rydym yn chwilio am rywun i adlewyrchu ein gwerthoedd ac sydd â’r un ysfa a ni i ddarparu gwasanaeth rhagorol i’n staff, lle mae ein tenantiaid yn greiddiol i’n gwaith.
Os oes gennych yr angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i’n dyfodol, hon yw’r swydd i chi.
Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysyllwch â Nerys Price-Jones, Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant ar 0300 111 2122.
Datblygiad Personol:
Os oes gennych gymwysterau proffesiynol a’ch bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol i’ch corff aelodaeth, byddwn yn talu un o’r rhain bob blwyddyn i’ch helpu i aros yn gysylltiedig â’r wybodaeth a’r addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau i’n holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chi’n gweithio gyda ni byddwn ni’n buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd!
Gwybodaeth Ychwanegol:
Lleoliad: Penygroes neu Dinbych a Gweithio o Gartref
Cyflog: £44,288 – £49,848
Cytundeb: Parhaol
Oriau: 35 ayw
Dyddiad cau: 06/05/2025
Dyddiad cyfweliad: wythnos yn cychwyn: 19.05.25
Gwneud cais:
Lawrlwythwch y disgrifiad swydd yma a dilynwch y ddolen hon ar gyfer y pecyn gwybodaeth Job Openings
I wneud cais, dilynwch y ddolen isod.
Os ydych chi’n cael unrhyw anhawster i gael mynediad i’r dolenni yn yr hysbyseb hon, cysylltwch â bev@charityjobfinder.co.uk