Crynodeb: Housing Managers x 2
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig ac egniol i gefnogi’r Tîm Adnoddau Dynol i roi cyngor a chefnogaeth i’r rheolwyr a’r staff ar faterion cyflogaeth a lles. Byddwch yn darparu gwasanaeth adnoddau dynol cynhwysfawr, rhagweithiol a chyfrinachol i’r Tîm gan sicrhau cydymffurfiaeth â pholisïau cyflogaeth y Grŵp.
Amdanom Ni:
Mae Grŵp Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, sy’n ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014.
Rydym yn gweithio’n galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybu’r iaith Gymraeg gyda balchder.
Rydyn ni am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau i’r eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd sy’n sicrhau dyfodol cynaliadwy.
Rôl y Swydd:
Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig ac egniol i gefnogi’r Tîm Adnoddau Dynol i roi cyngor a chefnogaeth i’r rheolwyr a’r staff ar faterion cyflogaeth a lles. Byddwch yn darparu gwasanaeth adnoddau dynol cynhwysfawr, rhagweithiol a chyfrinachol i’r Tîm gan sicrhau cydymffurfiaeth â pholisïau cyflogaeth y Grŵp. Disgwyliwn i’r ymgeisydd llwyddiannus gyfrannu’n bositif tuag at welliant parhaus yn nodau ac amcanion y Tîm gan ystyried ein gwerthoedd gwerth am arian. Byddwch yn arwain ar, a cheidwad y bas-data adnoddau dynol a’r bas-data rheoli amser.
Rydym yn chwilio am rywun i adlewyrchu ein gwerthoedd ac sydd â’r un ysfa a ni i ddarparu gwasanaeth rhagorol i’n staff, lle mae ein tenantiaid yn greiddiol i’n gwaith.
Os oes gennych yr angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i’n dyfodol, hon yw’r swydd i chi.
Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysyllwch â Iona Jones, Uwch Swyddog Adnoddau Dynol ar 0300 111 2122.
Datblygiad Personol:
Os oes gennych gymwysterau proffesiynol a’ch bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol i’ch corff aelodaeth, byddwn yn talu un o’r rhain bob blwyddyn i’ch helpu i aros yn gysylltiedig â’r wybodaeth a’r addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau i’n holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chi’n gweithio gyda ni byddwn ni’n buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd!
Gwybodaeth Ychwanegol:
Lleoliad: Dinbych a Gweithio o Gartref
Cyflog: £28,428 – £31,995
Cytundeb: Parhaol
Oriau: 35 ayw
Dyddiad cau: 06/05/2025
Dyddiad cyfweliad: wythnos yn dechrau 19.05.25
Gwneud cais:
Lawrlwythwch y disgrifiad swydd yma a dilynwch y ddolen hon ar gyfer y pecyn gwybodaeth Job Openings
I wneud cais, dilynwch y ddolen isod.
Os ydych chi’n cael unrhyw anhawster i gael mynediad i’r dolenni yn yr hysbyseb hon, cysylltwch â bev@charityjobfinder.co.uk