Crynodeb:
Bydd y Cadeirydd Annibynnol ar gyfer y Grŵp Cynghori ar Reoleiddio (RAG) newydd yn darparu arweinyddiaeth ar gyfer yr RAG ac yn meithrin perthynas waith dda rhwng ei aelodau, gan wneud yr Grŵp yn sianel effeithiol ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid a chefnogi strategaeth rheoleiddio tai a datblygu polisi.
Mae’r Grŵp Cynghori ar Reoleiddio yn grŵp sy’n cynrychioli rhanddeiliaid, a’i brif dasg yw wella rheoleiddio tai cymdeithasol drwy ddarparu mewnbwn a chyngor rhanddeiliaid mewn perthynas â strategaeth reoleiddio a pholisi.
Amdanom Ni:
Gwnewch wahaniaeth gyda ni!
Mae rheoleiddio Tai Cymdeithasol yng Nghymru yn gweithio i ddiogelu buddiannau a diogelwch tenantiaid a buddsoddiad cyhoeddus yn ein stoc tai cymdeithasol. Gyda’r nod o gryfhau’r swyddogaeth rheoleiddio, rydym yn recriwtio i rôl gynghorol Gweinidogol newydd i helpu i lunio polisi a strategaeth rheoleiddio yn y dyfodol.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl gyda chefndiroedd eang ac amrywiol, yn enwedig gan grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli neu bobl sydd â phrofiad byw fel tenantiaid a defnyddwyr gwasanaeth Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (RSL).
Gwnewch gais heddiw os ydych chi’n meddwl mai chi yw’r ymgeisydd cywir.
Mae rolau cynghori yn cael eu talu ar gyfradd ddyddiol am waith a wneir.
Rôl y Swydd:
Bydd y Cadeirydd Annibynnol ar gyfer y Grŵp Cynghori ar Reoleiddio (RAG) newydd yn darparu arweinyddiaeth ar gyfer yr RAG ac yn meithrin perthynas waith dda rhwng ei aelodau, gan wneud yr Grŵp yn sianel effeithiol ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid a chefnogi strategaeth rheoleiddio tai a datblygu polisi.
Mae’r Grŵp Cynghori ar Reoleiddio yn grŵp sy’n cynrychioli rhanddeiliaid, a’i brif dasg yw wella rheoleiddio tai cymdeithasol drwy ddarparu mewnbwn a chyngor rhanddeiliaid mewn perthynas â strategaeth reoleiddio a pholisi.
Cliciwch Y Grŵp Cynghori ar Reoleiddio (RAG) am ragor o fanylion
Gwybodaeth Ychwanegol:
Lleoliad: Cynhelir cyfarfodydd yng Nghaerdydd, ledled Cymru ac ar-lein.
Cyflog: £256 y dydd (neu ran ohono pro rata) ynghyd â chostau teithio a chostau eraill sy’n rhesymol.
Cytundeb: Penodiad cychwynnol o dair blynedd a allai gael ei adnewyddu yn amodol ar berfformiad boddhaol hyd at uchafswm o chwe blynedd.
Oriau: Hyd at wyth diwrnod y flwyddyn
Dyddiad cau: 09/05/25
Dyddiad cyfweliad: I’w gadarnhau
Gwneud cais:
Dilynwch y ddolen am fanylion sut i wneud cais
Os ydych chi’n cael unrhyw anhawster i gael mynediad i’r dolenni yn yr hysbyseb hon, cysylltwch â bev@charityjobfinder.co.uk