Crynodeb:
Rydym wrthi’n recriwtio ein Cyfarwyddwr Cyllid Cynorthwyol newydd a fydd yn helpu i lunio a hybu dyfodol ariannol Barcud. Fel cyfrifydd cymwys, dyma eich cye i arwain y broses o lunio a gweithredu strategaethau a systemau cyllid arloesol. Byddwch yn chwarae rôl allweddol yn y gwaith o ddylanwadu ar ein cynaliadwyedd ariannol a llywio llwyddiant hirdymor y sefydliad.
Rydym yn chwilio am arweinydd ariannol sydd â llawer o brofiad o ddatblygu cyllidebau, strategaethau busnes a chynlluniau gweithredu lefel uchel.
Amdanom Ni:
Yn 2018, cyhoeddodd Byrddau gwirfoddol Tai Ceredigion a Tai Canolbarth Cymru eu bod wedi dechrau archwilio’r posibilrwydd y gallai’r ddau landlord gydweithio’n agosach â’i gilydd.
Drwy wneud hynny, mae’r sefydliad newydd mewn sefyllfa i ddatblygu mwy fyth o gartrefi fforddiadwy a darparu cyfleoedd mwy sylweddol o ran cyflogaeth a hyfforddiant i’w staff a’i denantiaid yn rhanbarth y gorllewin a’r canolbarth. Mae’r uno yn cynnig cyfleoedd newydd cyffrous i denantiaid, preswylwyr, gweithwyr a busnesau lleol.
Darganfyddwch fwy amdanom yma About us – Barcud
Rôl y Swydd:
Rydym wrthi’n recriwtio ein Cyfarwyddwr Cyllid Cynorthwyol newydd a fydd yn helpu i lunio a hybu dyfodol ariannol Barcud. Fel cyfrifydd cymwys, dyma eich cye i arwain y broses o lunio a gweithredu strategaethau a systemau cyllid arloesol. Byddwch yn chwarae rôl allweddol yn y gwaith o ddylanwadu ar ein cynaliadwyedd ariannol a llywio llwyddiant hirdymor y sefydliad.
Rydym yn chwilio am arweinydd ariannol sydd â llawer o brofiad o ddatblygu cyllidebau, strategaethau busnes a chynlluniau gweithredu lefel uchel.
Os ydych yn barod i symud eich sgiliau arwain i’r lefel nesaf a helpu i lunio dyfodol sefydliad blaengar, ewch i www.campbelltickell.com/jobs i gael gwybod mwy am y rôl neu cysylltwch â Kelly Shaw yn Campbell Tickell kelly.shaw@campbelltickell.com i drefnu amser i gael sgwrs fanwl.
Swyddogaethau a Chyfrifoldebau Allweddol:
Cyllid:
- Bod yn gyfrifol am reoli a gweithredu strategaethau cyllid a fydd yn cynorthwyo’r sefydliad igyflawni ei amcanion.
- Sicrhau bod polisïau ac arferion yn cael eu rhoi ar waith yn unol â deddfwriaeth gyfredol acarfer gorau cydnabyddedig, ac mewn modd sy’n briodol i anghenion y sefydliad.
- Datblygu, monitro ac adrodd ar flaenoriaethau a chanlyniadau Strategaeth Gwerth am Arianyn ôl yr angen.
- Sicrhau bod gofynion o ran gwybodaeth yn cael eu nodi, eu blaenoriaethu, eu cynllunio a’ugweithredu yn unol ag amcanion busnes.
- Datblygu a gweithredu systemau cyllid sy’n briodol i anghenion Barcud.
- Cynorthwyo’r Cyfarwyddwr Grŵp Cyllid, Llywodraethiant a Buddsoddi i ddarparu gwasanaeth Rheoli Trysorlys yn unol â gofynion Cynllun Busnes y Gymdeithas ac ar y cyd â chynghorwyr Rheoli Trysorlys y Gymdeithas.
- Goruchwylio’r gyllideb a’r broses o’i chynllunio, gan gydlynu’r gwaith o baratoi cyllidebaurefeniw a chyfalaf blynyddol mewn ymgynghoriad â Rheolwyr.
- Goruchwylio’r gwaith o ddarparu adroddiadau monitro ariannol, cynhyrchu gwybodaeth reolifisol a chyfrifon diwedd blwyddyn ariannol.
- Goruchwylio cyfrifon statudol ac atodlenni ategol y cwmni, gan gynnwys cysylltu agarchwilwyr allanol yn ôl yr angen.
- Monitro rhwymedigaethau’r Gymdeithas o ran treth gan gynnwys TAW, Treth Gorfforaeth achyfraniadau Talu Wrth Ennill a chynorthwyo gyda gwaith cynllunio treth lle bo angen, gansicrhau bod yr holl ofynion statudol yn cael eu bodloni yn unol â gofynion yr adroddiad.
- Cynnal ymwybyddiaeth a gwybodaeth am ddatblygiadau ym maes Cyllid gan wneudargymhellion ar gyfer newidiadau a mentrau newydd lle bo’n briodol.
- Cynorthwyo gyda Chynllun Busnes ariannol y Gymdeithas (BRIXX) a pharatoi senarios ar gyfery Tîm Gweithredol a’r Bwrdd yn ôl yr angen.
- Cynorthwyo’r Cyfarwyddwr Grŵp Cyllid, Llywodraethiant a Buddsoddi i asesu hyfyweddariannol cyfleoedd busnes newydd yn unol â gofynion y Tîm Gweithredol.
- Sicrhau bod taliadau gwasanaeth yn cael eu cofnodi’n gywir a’u hanfonebu i denantiaid alesddeiliaid yn unol â gofynion deddfwriaethol.
- Dirprwyo ar ran y Cyfarwyddwr Grŵp Cyllid, Llywodraethiant a Buddsoddi pan fo angen.
Pobl:
- Bod yn gyfrifol am reolaeth gyffredinol y Tîm Cyllid a’i swyddogaethau cysylltiedig, gan sicrhaubod y rhain yn cael eu cyflawni i’r safonau uchaf.
- Hybu diwylliant o gyflawni’n dda, sy’n hybu gwelliant parhaus ac arbedion effeithlonrwydd.
- Rhannu gwybodaeth am flaenoriaethau, cynlluniau, gweledigaeth ac amcanion y Gymdeithaser mwyn sicrhau bod gwaith yn cael ei gyflawni’n effeithiol gan fodloni’r safonau gwasanaetha’r targedau a gytunwyd.
Corfforaethol:
- Hybu, datblygu a rheoli partneriaethau effeithiol â rhanddeiliaid mewnol ac allanol er mwynsicrhau gwelliant parhaus wrth ddarparu gwasanaethau.
- Hybu mentrau iechyd a lles ym mhob rhan o’r sefydliad.
- Darparu gwasanaeth ardderchog i bob cwsmer mewnol ac allanol.
- Gweithio’n unol â pholisïau’r Gymdeithas ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant bobamser ac ym mhob agwedd ar waith cyflogi a darparu gwasanaethau.
- Sicrhau bod y Gymdeithas a’i gweithwyr yn cydymffurfio â’r holl ofynion cyfreithiol, statudol arheoleiddiol ynghyd ag arfer gorau.
- Ym mhob agwedd ar waith y Gymdeithas, hyrwyddo systemau cyfathrebu effeithiol,rhagoriaeth o ran gwasanaeth i gwsmeriaid, a ffocws ar wella’n barhaus.
- Cyflawni unrhyw ddyletswyddau a chyfrifoldebau eraill y gallai fod yn rhesymol gofyn iddeiliad y swydd eu cyflawni.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cyflog: £92K yn ychwanegol at symud
Gontract: Parhaol
Lleoliadd: Aberystwyth/Y Drenewydd/Llanbedr Pont Steffan
Yn atebol i’r canlynol: Y Cyfarwyddwr Grŵp Cyllid
Dyddiad cau: 23 Mai 2025 | 9am
Lawrlwythwch y disgrifiad swydd a’r manyleb person yma
Gwneud cais:
Cliciwch ar y botwm isod
Os ydych chi’n cael unrhyw anhawster i gael mynediad i’r dolenni yn yr hysbyseb hon, cysylltwch â bev@charityjobfinder.co.uk