Crynodeb:

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a chymwys i gynhyrchu cyfrifon rheolaidd i adrannau’r gymdeithas a chyfarfod yn rheolaidd i gefnogi arweinwyr Grŵp Cynefin gyda gwybodaeth gyllidebol a gwybodaeth rhagolygon cywir.  Byddwch yn paratoi a llunio cyllideb flynyddol gan sicrhau ei fod yn ddigonol ac yn gywir.  Byddwch yn sicrhau gwasanaeth cyfrifo a chyllidol fel bo Grŵp Cynefin yn rhagori a chasglu gwybodaeth perfformiad ariannol i gefnogi amcanion y sefydliad.

Amdanom Ni:

Mae Grŵp Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, sy’n ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014.

​Rydym yn gweithio’n galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybu’r iaith Gymraeg gyda balchder.

Rydym am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau i’r eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd sy’n sicrhau dyfodol cynaliadwy.

Rôl y Swydd:

Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod.

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a chymwys i gynhyrchu cyfrifon rheolaidd i adrannau’r gymdeithas a chyfarfod yn rheolaidd i gefnogi arweinwyr Grŵp Cynefin gyda gwybodaeth gyllidebol a gwybodaeth rhagolygon cywir.  Byddwch yn paratoi a llunio cyllideb flynyddol gan sicrhau ei fod yn ddigonol ac yn gywir.  Byddwch yn sicrhau gwasanaeth cyfrifo a chyllidol fel bo Grŵp Cynefin yn rhagori a chasglu gwybodaeth perfformiad ariannol i gefnogi amcanion y sefydliad.

​Dylai eich gwerthoedd adlewyrchu ein gwerthoedd ni.

Os oes gennych yr ysfa a’r angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i’n dyfodol, hon yw’r swydd i chi.

Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysyllwch â Kevin Hughes, Rheolwr Cyllid ar 0300 111 2122.

Lawrlwythwch y disgrifiad swydd yma

Datblygiad Personol: 

Os oes gennych gymwysterau proffesiynol a’ch bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol i’ch corff aelodaeth, byddwn yn talu un o’r rhain bob blwyddyn i’ch helpu i aros yn gysylltiedig â’r wybodaeth a’r addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau i’n holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chi’n gweithio gyda ni byddwn ni’n buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd!

Gwybodaeth Ychwanegol:

Lleoliad: Penygroes neu Dinbych a Gweithio o Gartref

Cyflog: £38,203 – £42,999

Cytundeb: Parhaol

Oriau: 35 ayw

Dyddiad cau: 16/09/2024

Cyfweliadau:  27/09/24

Gwneud cais:

I wneud cais, dilynwch y ddolen isod.

Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) Byddwn yn gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Sylfaenol ar gyfer y swydd hon.

Os ydych chi’n cael unrhyw anhawster i gael mynediad i’r dolenni yn yr hysbyseb hon, cysylltwch â bev@charityjobfinder.co.uk