Crynodeb:

Darparu cymorth gweinyddol ar gyfer y Gyfarwyddiaeth Datblygu a Rheoli Asedau er mwyn galluogi Barcud i gyflawni ei amcanion a’i rwymedigaethau busnes a diwallu anghenion ei gwsmeriaid mewnol ac allanol.

Amdanom ni

Yn 2018, cyhoeddodd Byrddau gwirfoddol Tai Ceredigion a Tai Canolbarth Cymru eu bod wedi dechrau archwilio’r posibilrwydd y gallai’r ddau landlord gydweithio’n agosach â’i gilydd.

Drwy wneud hynny, mae’r sefydliad newydd mewn sefyllfa i ddatblygu mwy fyth o gartrefi fforddiadwy a darparu cyfleoedd mwy sylweddol o ran cyflogaeth a hyfforddiant i’w staff a’i denantiaid yn rhanbarth y gorllewin a’r canolbarth. Mae’r uno yn cynnig cyfleoedd newydd cyffrous i denantiaid, preswylwyr, gweithwyr a busnesau lleol.

Rôl y Swydd:

Cyfrifoldebau allweddol

Gweinyddu:

  • Darparu gwasanaeth cymorth gweinyddol trylwyr, defnyddiol ac effeithiol ar gyfer staff a gweithgareddau ar draws y Gyfarwyddiaeth Datblygu a Rheoli Asedau, gan sicrhau bod rhaglenni ym maes Datblygu, Cydymffurfio, Gwaith Cynnal a Chadw Arfaethedig ac Atgyweirio yn cael eu cyflawni’n unol â’r amserlenni, y trothwyon risg a’r gyllideb a gytunwyd.
  • Sicrhau fod Barud yn cydymffurfio gyda’r rheoliadau presennol. I gynnwys codi gwaith, cysylltu â chontractwyr, tenantiaid ad adrannau eraill i sicrhau fod gwasanaethau yn cael eu ymgymryd mewn modd amserol ac yn unol â pholisïau a gweithdrefnau Barcud.
  • Cynorthwyo rhediad esmwyth gweithdrefnau Rheoli Asedau yn ôl yr angen, i sicrhau canlyniadau amserol e.e. prosesau VOIDS
  • Gweinyddu’r rhyngwyneb â chwsmeriaid drwy ymgynghori â thenantiaid ynghylch rhaglenni arfaethedig y Gyfarwyddiaeth Datblygu, Cydymffurfio a Rheoli Asedau, gan sicrhau bod y tenantiaid yn dod yn ymwybodol o hyd a lled gwasanaethau Barcud.
  • Cadw cofnodion cywir am raglenni ym maes Datblygu, Cydymffurfio a Rheoli Asedau, gan sicrhau bod y cronfeydd data i gyd yn adlewyrchu gwaith sydd angen i wneud a gwaith wedi ‘i gwblhau, yn cael eu storio’n ddiogel ac yn cael eu diweddaru’n rheolaidd.
  • Adrodd, pan fydd angen, ynghylch cofnodion rhaglenni ym maes Datblygu, Cydymffurfio a Rheoli Asedau wrth staff ar draws y Gymdeithas, Llywodraeth Cymru ac unrhyw rhan ddeiliaid trydydd parti eraill.
    Tachwedd 2020
  • Cynorthwyo drwy gydweithredu â staff ym maes Datblygu a Rheoli Asedau i gyflawni swyddogaethau eraill yn Barcud, yn enwedig swyddogaethau’r tîm Gwasanaeth i Gwsmeriaid, er mwyn sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu darparu mewn modd cydgysylltiedig.
  • Cynorthwyo i gyflawni rhaglenni’n ymwneud ag arolygon o gyflwr y stoc ac arolygon o safbwynt Safon Ansawdd Tai Cymru, drwy gyflawni ystod o dasgau gweinyddol cysylltiedig.
  • Helpu i drefnu unrhyw archwiliadau o eiddo, gan gydlynu gwaith gan staff Barcud a darparwyr allanol.
  • Cynorthwyo i gofnodi a storio tystysgrifau cydymffurfio, gan sicrhau bod yr holl dystysgrifau’n gyfredol a bod unrhyw achosion o fethu â chydymffurfio’n cael eu hunioni’n gyflym.
  • Sicrhau bod yr holl waith yn cael ei gyflawni i safon uchel ac yn unol â rheoliadau a deddfwriaeth.
  • Prosesu a diweddaru cofnodion am gynlluniau datblygu, ar draws y broses ddatblygu.
  • Sicrhau bod staff ym maes Datblygu a Rheoli Asedau yn cydweithredu â’i gilydd yn ôl yr angen, gan gynnwys wrth brosesu datblygiadau newydd a mewnbynnu manylion eiddo newydd yn gywir ar y systemau priodol.
  • Cyflawni ystod o dasgau teipio a ffeilio a thasgau gweinyddol eraill ar ran y Gyfarwyddiaeth.
  • Diweddaru cronfeydd data sy’n ymwneud â Dangosyddion Perfformiad Allweddol.
  • Cynorthwyo i drefnu archwiliadau mewnol ac allanol rheolaidd.
  • Mynychu cyfarfodydd a chadw cofnodion ynddynt, yn ôl yr angen.
  • Dirprwyo dros yr Uwch-weinyddwr Systemau pan fydd angen.

Pobl:

  • Hybu diwylliant o gyflawni’n dda, sy’n hybu gwelliant parhaus ac arbedion effeithlonrwydd.
  • Rhannu gwybodaeth am flaenoriaethau, cynlluniau, gweledigaeth ac amcanion y Gymdeithas er mwyn sicrhau bod gwaith yn cael ei gyflawni’n effeithiol gan fodloni’r safonau gwasanaeth a’r targedau a gytunwyd.

Corfforaethol:

  • Hybu, datblygu a rheoli partneriaethau effeithiol â rhanddeiliaid mewnol ac allanol er mwyn sicrhau gwelliant parhaus wrth ddarparu gwasanaethau.
  • Hybu mentrau iechyd a lles ym mhob rhan o’r sefydliad.
  • Darparu gwasanaeth ardderchog i bob cwsmer mewnol ac allanol.
  • Gweithio’n unol â pholisïau’r Gymdeithas ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant bob amser ac ym mhob agwedd ar waith cyflogi a darparu gwasanaethau.
  • Sicrhau bod y Gymdeithas a’i gweithwyr yn cydymffurfio â’r holl ofynion cyfreithiol, statudol a rheoleiddiol ynghyd ag arfer gorau.
  • Ym mhob agwedd ar waith y Gymdeithas, hyrwyddo systemau cyfathrebu effeithiol, rhagoriaeth o ran gwasanaeth i gwsmeriaid, a ffocws ar wella’n barhaus.
  • Cyflawni unrhyw ddyletswyddau a chyfrifoldebau eraill y gallai fod yn rhesymol gofyn i ddeiliad y swydd eu cyflawni.

Lawrlwythwch y Disgrifiad Swydd yma

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cyflog (ar gyfartaledd): £26,383.00 – £29,740
Oriau a math o gontract: 37 awr, llawn amser, parhaol
Lleoliad: Y Drenewydd
Yn atebol i’r canlynol: Arweinydd Tîm Systemau Rheoli Asedau
Adran: Datblygu a Rheoli Asedau
Dyddiad cau: 19 Tachwedd 2024 (canol dydd) (Dylech nodi na dderbynir ceisiadau a ddaw i law ar ôl y dyddiad a’r amser cau)
Dyddiad y Cyfweliad: 2 Rhagfyr 2024

Sut i Wneud Cais:

I wneud cais cliciwch ar y ddolen isod

Os oes gennych unrhyw broblemau wrth agor y ddolen cysylltwch â bev@charityjobfinder.co.uk