Crynodeb:
Gwneud gwaith cynnal a chadw sy’n gysylltiedig â gwaith saer maen yn effeithiol ac yn effeithlon yn nhai Barcud ac mewn eiddo arall, yn unol a Rheoliadau Adeiladu mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau, gan weithio’n annibynnol neu’n rhan o dîm ehangach. Bydd disgwyl i’r unigolyn weithio i safon uchel mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau cynnal a chadw.
Amdanom Ni:
Yn 2018, cyhoeddodd Byrddau gwirfoddol Tai Ceredigion a Tai Canolbarth Cymru eu bod wedi dechrau archwilio’r posibilrwydd y gallai’r ddau landlord gydweithio’n agosach â’i gilydd.
Drwy wneud hynny, mae’r sefydliad newydd mewn sefyllfa i ddatblygu mwy fyth o gartrefi fforddiadwy a darparu cyfleoedd mwy sylweddol o ran cyflogaeth a hyfforddiant i’w staff a’i denantiaid yn rhanbarth y gorllewin a’r canolbarth. Mae’r uno yn cynnig cyfleoedd newydd cyffrous i denantiaid, preswylwyr, gweithwyr a busnesau lleol.
Darganfyddwch fwy amdanom yma About us – Barcud
Rôl y Swydd:
Gwneud gwaith cynnal a chadw sy’n gysylltiedig â gwaith saer maen yn effeithiol ac yn effeithlon yn nhai Barcud ac mewn eiddo arall, yn unol a Rheoliadau Adeiladu mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau, gan weithio’n annibynnol neu’n rhan o dîm ehangach. Bydd disgwyl i’r unigolyn weithio i safon uchel mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau cynnal a chadw.
Bydd dyletswyddau aelodau’r tîm yn amrywio (dan gyfarwyddyd Arweinydd y Tîm a Rheolwr MEDRA) er mwyn gweithio lle mae’r galw mwyaf o ddydd i ddydd, a byddant yn cynnwys y dyletswyddau canlynol:
Cyfrifoldebau Allweddol – Gweithredol:
- Gweithio’n rhan o dîm MEDRA i ymgymryd â’r holl waith gosod, atgyweirio a chynnal a chadw sy’n gysylltiedig â gwaith saer maen, ynghyd â gwaith plastro, yn holl eiddo Barcud, a chynnal yr eiddo i safon uchel.
- Cyflawni tasg atgyweirio a gosod lloriau a llwybrau newydd, atgyweirio simneiau a gwneud gwaith allanol yn ôl yr angen.
- Altgyweirio a chynnal a chadw i waith plwm ar bob eiddo.
- Ffensio (pyst concrid ac ati)
- Ymgymryd â cheginau ac ystafelloedd ymolchi newydd gan gynnwys gwaith plymwr sylfaenol, teils a lloriau mewn eiddo a feddiannir a heb ei feddiannu.
- Gwneud atgyweiriadau i ffabrig adeilad, er enghraifft atgyweirio waliau, drysau, fframiau drysau, byrddau sgyrtin neu ddifrod plastr i waliau mewnol.
- Gwneud atgyweiriadau gan gynnwys landeri, ffensys, unedau cegin, rhywfaint o waith ysgol, gwaith to ac adnewyddu mewnol yn ôl yr angen. Byddwch yn hyddysg yn y tasgau canlynol: hongian drysau, caledwedd drws, ffenestri gosod, gosodiad grisiau a thrawstiau cyffredin, teilsio, defnyddio sgiliau mathemateg priodol.
- Addurno
- Cynnal a chadw systemau plymio a draenio, er enghraifft atgyweiriadau sylfaenol i systemau toiledau, tapiau’n gollwng a dadflocio draeniau.
- Gwaith clirio cyffredinol.
- Atgyweirio teils llawr finyl.
- Gosod sgrîd a deunyddiau hunanlefelu ar gyfer lloriau.
- Cynnal a chadw systemau draenio uwchlaw ac islaw’r ddaear ym mhob eiddo.
- Defnyddio amrywiaeth o offer peiriannol (trydan / modur)
- Sicrhau bod yr holl waith a’r holl ddeunyddiau’n cael eu darparu’n unol â strategaeth gaffael Barcud.
- Bod ar gael i ymdrin â galwadau brys ac ymateb yn brydlon iddynt ar sail rota fel sy’n ofynnol gan y sefydliad.
- Cysylltu â thenantiaid i gyflawni gwaith yn eu cartrefi, mewn modd amserol, cwrtais a phroffesiynol.
- Gyrru cerbyd fel y bo angen, yn unol â Rheolau’r Ffordd Fawr a rheolau a rheoliadau Barcud.
- Sicrhewch fod y cerbyd wedi’i stocio’n gywir er mwyn cyflawni tasgau a’i fod yn cael ei gadw’n lân a’i wirio’n rheolaidd.
- Sicrhau bod cerbydau’n cael eu glanhau a’u tacluso’n rheolaidd a bod yr holl stoc sydd mewn cerbyd yn cael ei storio’n briodol ac yn ddiogel ynddo.
- Defnyddio’r dechnoleg briodol yn ôl cyfarwyddyd y Tîm Rheoli; ymgymryd â gwaith papur cyffredinol a system cardiau swydd, sy’n gofyn am fewnbwn gan ddeliad y swydd.
- Yn ogystal â’r brif grefft, bydd disgwyl i’r gweithiwr allu dangos cymhwysedd mewn disgyblaethau ategol eraill. Bydd disgwyl i’r gweithiwr ddefnyddio’r sgiliau ategol hyn yn rheolaidd, yn ôl y cyfarwyddyd a roddir, er budd y sefydliad. Gallai’r crefftau eraill gynnwys: gwaith plastro, paentio a phapuro, gwneud gwaith ar doeon, gosod lloriau arbenigol, gosod teils a gwneud gwaith plymio sylfaenol. Nid yw’r rhestr hon yn cynnwys pob crefft bosibl a gallai newid yn unol ag anghenion o ran busnes.
- Cymryd rhan mewn unrhyw hyfforddiant fel y bo angen er mwyn gallu cyflawni dyletswyddau.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cyflog: £28,968.00
Oriau a math o gontract: 37 Awr, Llawn Amser, Parhaol
Yn atebol i’r canlynol: Arweinydd Tîm
Adran: Gwasanaethau Masnachol – Medra
Lleoliadd: Ceredigion
Dyddiad cau: 11 Mawrth 2025
Rydym yn cadw’r hawl i gau’r swydd yn gynt os byddwn yn derbyn digon o geisiadau.
Dyddiad y Cyfweliad: 20 Mawrth 2025
Lawrlwythwch y disgrifiad swydd a’r fanyleb person yma
Gwneud cais:
I wneud cais, dilynwch y ddolen isod.
Os ydych chi’n cael unrhyw anhawster i gael mynediad i’r dolenni yn yr hysbyseb hon, cysylltwch â bev@charityjobfinder.co.uk