Crynodeb:
Darparu gwasanaeth cynnal a chadw effeithlon, ymatebol a chylchol ar gyfer plymwaith a systemau gwresogi yn eiddo Barcud neu mewn eiddo cleientiaid.
Amdanom Ni:
Yn 2018, cyhoeddodd Byrddau gwirfoddol Tai Ceredigion a Tai Canolbarth Cymru eu bod wedi dechrau archwilio’r posibilrwydd y gallai’r ddau landlord gydweithio’n agosach â’i gilydd.
Drwy wneud hynny, mae’r sefydliad newydd mewn sefyllfa i ddatblygu mwy fyth o gartrefi fforddiadwy a darparu cyfleoedd mwy sylweddol o ran cyflogaeth a hyfforddiant i’w staff a’i denantiaid yn rhanbarth y gorllewin a’r canolbarth. Mae’r uno yn cynnig cyfleoedd newydd cyffrous i denantiaid, preswylwyr, gweithwyr a busnesau lleol.
Darganfyddwch fwy amdanom ni About us – Barcud
Rôl y Swydd:
Cyfrifoldebau Allweddol –
Dyletswyddau plymio:
• Atgyweirio plymwaith/systemau gwresogi wrth ymateb i ddiffygion y ceir gwybod amdanynt, diagnosio diffygion a gosod cydrannau newydd yn lle cydrannau diffygiol fel y bo angen, gan gynnwys ailgysylltu systemau a ddatgysylltwyd.
• Cynorthwyo i weithredu’r rhaglen flynyddol o waith cynnal a chadw fel y bo angen, gan gynnwys gwaith sy’n ymwneud â gwresogi, rhoi gwasanaeth, chwilio, glanhau, a gosod cydrannau newydd yn lle hen rai fel y bo angen.
• Darparu adroddiadau technegol a chyffredinol yn ysgrifenedig ac ar lafar, gan gynnwys rhoi adborth cwsmeriaid ynghylch problemau cynnal a chadw ar gyfer datblygiadau’n awr ac yn y dyfodol, gan nodi agweddau sy’n peri pryder, os oes angen.
• Cadw cofnodion priodol, megis cofnodion o waith atgyweirio a gyflawnwyd, cyswllt â phreswylwyr, archebion ac ati.
• Cwblhau’r holl waith papur perthnasol yn gywir.
• Sicrhau bod yr holl waith yn cael ei gyflawni yn unol â’r ddeddfwriaeth gyfredol ynghylch iechyd a diogelwch, a’i fod yn cael ei gyflawni mewn modd diwyd gan sicrhau bod anghenion y tenant o ran diwylliant ac amrywiaeth yn cael eu rheoli, ac adnabod a gweithredu cyfleoedd i wneud y defnydd gorau posibl o’r holl adnoddau.
• Sicrhau bod yr holl waith yn cydymffurfio â’r holl reoliadau cyfreithiol a statudol ynghyd ag arfer gorau.
• Fel sy’n ofynnol, cyflawni dyletswyddau crefftwr mewn disgyblaethau gwahanol er mwyn addasu i ofynion Barcud o ran busnes, sy’n newid yn barhaus.
Pobl:
• Bod yn gyfrifol am reoli’r Prentisiaid Plymio yn gyffredinol, gan sicrhau eu bod yn gweithredu i’r safonau uchaf.
• Hybu diwylliant o gyflawni’n dda, sy’n hybu gwelliant parhaus ac arbedion effeithlonrwydd.
• Rhannu gwybodaeth am flaenoriaethau, cynlluniau, gweledigaeth ac amcanion y Gymdeithas er mwyn sicrhau bod gwaith yn cael ei gyflawni’n effeithiol gan fodloni’r safonau gwasanaeth a’r targedau a gytunwyd.
Corfforaethol:
• Hybu, datblygu a rheoli partneriaethau effeithiol â rhanddeiliaid mewnol ac allanol er mwyn sicrhau gwelliant parhaus wrth ddarparu gwasanaethau.
• Hybu mentrau iechyd a lles ym mhob rhan o’r sefydliad.
• Darparu gwasanaeth ardderchog i bob cwsmer mewnol ac allanol.
• Gweithio’n unol â pholisïau’r Gymdeithas ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant bob amser ac ym mhob agwedd ar waith cyflogi a darparu gwasanaethau.
• Sicrhau bod y Gymdeithas a’i gweithwyr yn cydymffurfio â’r holl ofynion cyfreithiol, statudol a rheoleiddiol ynghyd ag arfer gorau.
• Ym mhob agwedd ar waith y Gymdeithas, hyrwyddo systemau cyfathrebu effeithiol, rhagoriaeth o ran gwasanaeth i gwsmeriaid, a ffocws ar wella’n barhaus.
• Cyflawni unrhyw ddyletswyddau a chyfrifoldebau eraill y gallai fod yn rhesymol gofyn i ddeiliad y swydd eu cyflawni.
Lawrlwythwch y disgrifiad swydd a’r fanyleb person yma
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cyflog (ar gyfartaledd): £31,570 – £35,583
Oriau a math o gontract: 37 Awr, Llawn Amser, Parhaol
Location: Ceredigion
Yn atebol i’r canlynol: Arweinydd y Tîm Plymio
Gwneud cais:
Dyddiad cau: 24 Ionawr 2025 (canol dydd)
(Dylech nodi na dderbynir ceisiadau a ddaw i law ar ôl y dyddiad a’r amser cau)
Dyddiad y Cyfweliad: 5 Chwefror 2025
I wneud cais, dilynwch y ddolen isod.
Os ydych chi’n cael unrhyw anhawster i gael mynediad i’r dolenni yn yr hysbyseb hon, cysylltwch â bev@charityjobfinder.co.uk