Crynodeb:
Rydym yn chwilio am Pennaeth Adnoddau Dynol a Dysgu a Datblygu
Rydym yn chwilio am unigolyn i arwain a rheoli pob agwedd ar Adnoddau Dynol a swyddogaethau Dysgu a Datblygu o fewn Grŵp Cynefin. Mae’r rôl hon yn hanfodol wrth feithrin diwylliant o ddysgu parhaus, gwella galluoedd staff a siapio ein diwylliant sefydliadol.
Amdanom Ni:
Mae Grŵp Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, sy’n ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014.
Rydym yn gweithio’n galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybu’r iaith Gymraeg gyda balchder.
Rydym am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau i’r eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd sy’n sicrhau dyfodol cynaliadwy.
Rôl y Swydd:
Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod.
Gyda gweledigaeth newydd a fydd yn dod ag egni newydd i’n gwaith, mae hwn yn gyfnod hynod gyffrous i Grŵp Cynefin. Mae creu rôl Pennaeth Adnoddau Dynol a Dysgu a Datblygu, i weithio fel rhan o’r Tîm Arweinyddiaeth ehangach, yn ganolog i ddiwylliant a gweledigaeth y grŵp i’r dyfodol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arwain y ffordd mewn rôl amrywiol a chyffrous. Byddant yn:
- cefnogi trawsnewid sefydliadol ar draws y grŵp
- cefnogi twf a datblygiad staff
- gwella profiad y cwsmer trwy ddatblygu eu gallu i ddylanwadu ar bob lefel
- darparu gwasanaeth cwsmer rhagorol
- cryfhau ein proffil cadarnhaol ar lefel ranbarthol a chenedlaethol
Mae wedi bod yn gyfnod o ystyried, adolygu, gweld lle gallwn wella a gweithredu arno. Rydyn ni yn awr mewn lle hynod o gadarnhaol ac mae’r dyfodol yn un cyffrous.
Rydym yn chwilio am unigolyn i arwain a rheoli pob agwedd ar Adnoddau Dynol a swyddogaethau Dysgu a Datblygu o fewn Grŵp Cynefin. Mae’r rôl hon yn hanfodol wrth feithrin diwylliant o ddysgu parhaus, gwella galluoedd staff a siapio ein diwylliant sefydliadol.
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol angerdd am ddatblygiad unigolion wrth gefnogi datblygiad staff, a sicrhau polisïau ac arferion Adnoddau Dynol effeithiol sy’n cyd-fynd â’n gwerthoedd a’n cynllun corfforaethol i ddarparu tai o safon.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cydweithio â’r Tîm Arweinyddiaeth a staff ar draws yr sefyliad i feithrin amgylchedd gwaith perfformiad uchel sy’n cefnogi nodau strategol Grŵp Cynefin. Bydd y rôl yn canolbwyntio ar ddatblygu a gweithredu strategaethau Adnoddau Dynol a Dysgu a Datblygu sy’n cyd-fynd â chenhadaeth y sefydliad.
Mae’r swydd hon yn gofyn am arweinydd deinamig sydd â phrofiad mewn rheoli pobl, datblygu polisi, ac ymrwymiad cryf i feithrin diwylliant gweithle cynhwysol sy’n gwerthfawrogi EDI.
Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysyllwch â Crofton Davey, Cydlynydd Adnoddau Dynol ar 0300 111 2122.
Datblygiad Personol:
Os oes gennych gymwysterau proffesiynol a’ch bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol i’ch corff aelodaeth, byddwn yn talu un o’r rhain bob blwyddyn i’ch helpu i aros yn gysylltiedig â’r wybodaeth a’r addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau i’n holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chi’n gweithio gyda ni byddwn ni’n buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd!
Dogfennau a Dyddiadau Perthnasol:
Dyddiad cyfweliad: Wythnos yn dechrau 9 Rhagfyr 2024
Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) Byddwn yn gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Sylfaenol ar gyfer y swydd hon.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Lleoliad: Penygroes neu Dinbych a Gweithio o Gartref
Cyflog: Cystadleuol
Cytundeb: Parhaol
Oriau: 35 ayw
Dyddiad cau: 25 Tachwedd 2024
Gwneud cais:
I wneud cais, dilynwch y ddolen isod.
Os ydych chi’n cael unrhyw anhawster i gael mynediad i’r dolenni yn yr hysbyseb hon, cysylltwch â bev@charityjobfinder.co.uk