Crynodeb:
Rydym yn chwilio am Pennaeth Cyllid.
Gyda gweledigaeth newydd a fydd yn dod ag egni newydd i’n gwaith, mae hwn yn gyfnod hynod gyffrous i Grŵp Cynefin. Mae creu rôl Pennaeth Cyllid, i weithio fel rhan o’r Tîm Arweinyddiaeth ehangach, yn ganolog i ddiwylliant a gweledigaeth y grŵp i’r dyfodol.
Amdanom Ni:
Mae Grŵp Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, sy’n ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014.
Rydym yn gweithio’n galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybu’r iaith Gymraeg gyda balchder.
Rydym am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau i’r eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd sy’n sicrhau dyfodol cynaliadwy.
Rôl y Swydd:
Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod.
Gyda gweledigaeth newydd a fydd yn dod ag egni newydd i’n gwaith, mae hwn yn gyfnod hynod gyffrous i Grŵp Cynefin. Mae creu rôl Pennaeth Cyllid, i weithio fel rhan o’r Tîm Arweinyddiaeth ehangach, yn ganolog i ddiwylliant a gweledigaeth y grŵp i’r dyfodol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arwain y ffordd mewn rôl amrywiol a chyffrous. Byddant yn:
- cefnogi trawsnewid sefydliadol ar draws y grŵp
- cefnogi twf a datblygiad staff
- gwella profiad y cwsmer trwy ddatblygu eu gallu i ddylanwadu ar bob lefel
- darparu gwasanaeth cwsmer rhagorol
- cryfhau ein proffil cadarnhaol ar lefel ranbarthol a chenedlaethol
Mae wedi bod yn gyfnod o ystyried, adolygu, gweld lle gallwn wella a gweithredu arno. Rydyn ni yn awr mewn lle hynod o gadarnhaol ac mae’r dyfodol yn un cyffrous.
Rydym yn chwilio am unigolyn i gefnogi byrddau’r grŵp a’r is-gwmniau ym mhob agwedd o’r swydd.
Bydd deilydd y swydd yn sicrhau bod Grŵp Cynefin yn parhau i weithredu mewn modd sy’n cydymffurfio drwy osod, monitro ac ymgorffori’r holl reoliadau, polisïau a gweithdrefnau ariannol a chaffael.
Bydd deilydd y swydd yn atebol am Reolaeth Trysorlys y grŵp, ac yn sicrhau ymlyniad wrth unrhyw ofynion rheoleiddiol, benthycwr a chyfansoddiadol.
Bydd deilydd y swydd yn sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth o safon uchel i’n holl staff a defnyddwyr gwasanaeth a bod yr holl wasanaethau o dan eich arweinyddiaeth yn parhau’n gyfoes a bod llais ein tenant yn cael ei ddefnyddio ar bob lefel o’r sefydliad i wella gwasanaethau.
Bydd deilydd y swydd yn darparu adroddiadau amserol i’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth, Pwyllgorau a Bwrdd Grŵp Cynefin yn ôl yr angen.
Os oes gennych y rhinweddau a’r angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i’n dyfodol, hon yw’r swydd i chi.
Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysyllwch â Crofton Davey, Cydlynydd Adnoddau Dynol ar 0300 111 2122.
Datblygiad Personol:
Os oes gennych gymwysterau proffesiynol a’ch bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol i’ch corff aelodaeth, byddwn yn talu un o’r rhain bob blwyddyn i’ch helpu i aros yn gysylltiedig â’r wybodaeth a’r addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau i’n holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chi’n gweithio gyda ni byddwn ni’n buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd!
Dogfennau a Dyddiadau Perthnasol
Dyddiad cyfweliad: Wythnos yn dechrau 9 Rhagfyr 2024
Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) Byddwn yn gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Sylfaenol ar gyfer y swydd hon
Gwybodaeth Ychwanegol:
Lleoliad: Penygroes neu Dinbych a Gweithio o Gartref
Cyflog: Cystadleuol
Cytundeb: Parhaol
Oriau: 35 ayw
Dyddiad cau: 25 Tachwedd 2024
Gwneud cais:
I wneud cais, dilynwch y ddolen isod.
Os ydych chi’n cael unrhyw anhawster i gael mynediad i’r dolenni yn yr hysbyseb hon, cysylltwch â bev@charityjobfinder.co.uk