Crynodeb:

Mae cyfle wedi codi i’r ymgeisydd cywir ymuno â’n Tîm Creu Dyfodol i Greu Menter.

Os oes gennych y rhinweddau yr ydym yn chwilio amdanynt, edrychwn ymlaen at dderbyn eich ffurflen gais.

We're hiring!

Amdanom ni:

                   

Mae Creu Menter, sy’n rhan o Gymdeithas Tai Cartrefi Conwy, yn fenter gymdeithasol arobryn, Wedi’i leoli yng Nghonwy, Gogledd Cymru.

Fel menter gymdeithasol, gallwn ddangos gwerth cymdeithasol cryf wrth i ni fuddsoddi ein helw yn ôl i’r cymunedau lle mae gennym gartrefi.

Ynglŷn â’r Swydd:

Pwrpas y swydd hon yw gweithredu a darparu Strategaeth Effaith Gymdeithasol a chynllun gweithredu Conwy a sefydlu’r effaith gymdeithasol ar draws pob tîm yng Ngrŵp Cartrefi Conwy. Byddwch yn arwain a rheoli’r tîm Creu Dyfodol ac yn sicrhau fod DPA y tîm yn cael eu bodloni.

FFOCWS A CHYFRIFOLDEBAU ALLWEDDOL:

  • Goruchwylio rhediad dydd i ddydd y tîm Creu Dyfodol gan sicrhau fod yr holl brosiectau a gwasanaethau yn bodloni anghenion tenantiaid Cartrefi Conwy a’r gymuned ehangach
  • Rheoli a darparu amcanion allweddol y Strategaeth Effaith Gymdeithasol – Creu Tenantiaethau Cynaliadwy a Chreu Cyfleoedd i bobl ffynnu yn eu cymunedau gan
    ddarparu yn erbyn y targedau o fewn y gyllideb a dyddiadau cau
  • Goruchwylio a rheoli twf Canolbwyntiau Cymunedol Cartrefi Conwy i ddarparu gwasanaethau a gweithgareddau ar gyfer y gymuned
  •  Goruchwylio datblygiad a rheolaeth unrhyw brosiectau a ariennir gan grant, gan sicrhau fod canlyniadau cyrff dyrannu’n cael eu cyflawni a’u hadrodd
  • Sicrhau rheolaeth atebol effeithiol o gydweithwyr Creu Dyfodol, gan gynnwys swyddi dros dro a ariennir gan grant.
  • Cynorthwyo’r Cyfarwyddwr Partneriaethau – Gwerth Cymdeithasol i gynllunio, peilota a gwerthuso prosiectau a gwasanaethau newydd
  • Bod yn atebol am fodloni Dangosyddion Perfformiad Allweddol Creu Dyfodol fel y nodir yn flynyddol gan Fwrdd y Cyfarwyddwyr, a datblygu dangosyddion perfformiad gweithredol ac unigol sy’n cyfrannu tuag at gyflawni amcanion Creu Menter. Sicrhau fod holl ddarpariaeth cefnogi yn cael ei adrodd a’i gofnodi’n gywir, gan amlygu’r llwyddiannau.
  • Datblygu prosiectau a gwasanaethau newydd i’w darparu o fewn Creu Dyfodol mewn modd rhagweithiol ac ymgeisio am gyllid allanol lle bo hynny’n briodol.
  • Datblygu cysylltiadau â phartneriaid, sefydliadau ac asiantaethau allanol i gynyddu cyfranogiad ac ymgysylltiad gwella bodlonrwydd tenantiaid.
  • Cynyddu ymgysylltiad ystod eang o bobl i gael mynediad at brosiectau a gwasanaethau a ddarperir gan Greu Dyfodol.
  • Datblygu cysylltiadau â chydweithwyr Cartrefi Conwy sy’n ymdrin â thenantiaid i godi ymwybyddiaeth am y strategaeth effaith gymdeithasol a sut gallai gefnogi cydweithwyr.
  • Gweithio mewn partneriaeth, cynnwys a dylanwadu ar fudd-ddeiliaid allweddol i ddatblygu mentrau a chyfleoedd newydd.
  • Helpu i gyflawni amcanion cyffredinol Creu Menter i ddarparu gwasanaeth ardderchog ac arloesol sydd wir yn canolbwyntio ar gwsmeriaid / tenantiaid.

Lawrlwythwch y swydd ddisgrifiad yma

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cytundeb: Parhaol

Lleoliad: Conwy

Oriau: LLawn Amser, 37 awr yr wythnos

Cyflog: Hyd at £41,030 y flwyddyn

Dyddiad cau: 24/11/2024

Dyddiad cyfweliad: 28/11/2024

Gwneud cais:

I wneud cais, dilynwch y ddolen isod:

Os ydych chi’n cael unrhyw anhawster i gael mynediad i’r dolenni yn yr hysbyseb hon, cysylltwch â bev@charityjobfinder.co.uk