Crynodeb:
Rydym yn chwilio am Pennaeth Adnoddau Dynol a Dysgu a Datblygu.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig ac egniol i ddylunio, cefnogi, rheoli a chyflwyno rhaglenni dysgu a datblygu corfforaethol, yn unol ag anghenion datblygu sydd wedi’u targedu o fewn Cynllun Corfforaethol y Gymdeithas a nodau Cyfarwyddiaeth unigol. Bydd y Rheolwr DaD yn arwain ac yn rheoli pob agwedd ar y swyddogaethau Dysgu a Datblygu yng Ngrŵp Cynefin
Amdanom Ni:
Mae Grŵp Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, sy’n ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014.
Rydym yn gweithio’n galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybu’r iaith Gymraeg gyda balchder.
Rydym am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau i’r eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd sy’n sicrhau dyfodol cynaliadwy.
Rôl y Swydd:
Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod.y.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig ac egniol i ddylunio, cefnogi, rheoli a chyflwyno rhaglenni dysgu a datblygu corfforaethol, yn unol ag anghenion datblygu sydd wedi’u targedu o fewn Cynllun Corfforaethol y Gymdeithas a nodau Cyfarwyddiaeth unigol. Bydd y Rheolwr DaD yn arwain ac yn rheoli pob agwedd ar y swyddogaethau Dysgu a Datblygu yng Ngrŵp Cynefin. Mae’r rôl hon yn hanfodol wrth feithrin diwylliant o ddysgu parhaus, gwella galluoedd staff a siapio ein diwylliant sefydliadol. Bydd y Rheolwr delfrydol ag angerdd dros ddysgu gweithwyr wrth gefnogi datblygiad staff, a sicrhau strategaeth hyfforddi effeithiol sy’n cyd-fynd â’n gwerthoedd a’n cynllun corfforaethol i ddarparu datrysiadau tai o safon.
Bydd y Rheolwr yn cydweithio ag arweinyddiaeth a staff i feithrin amgylchedd gwaith perfformiad uchel sy’n cefnogi nodau strategol Grŵp Cynefin. Bydd y rôl yn canolbwyntio ar ddatblygu a gweithredu strategaethau DaD sy’n cyd-fynd â chenhadaeth y sefydliad.
Mae’r swydd hon yn gofyn am Reolwr deinamig sydd â phrofiad helaeth mewn DaD ac ymrwymiad cryf i feithrin diwylliant gweithle cynhwysol sy’n gwerthfawrogi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI).
Rydym yn chwilio am rywun i adlewyrchu ein gwerthoedd ac sydd â’r un ysfa a ni i ddarparu gwasanaeth rhagorol i’n staff, lle mae ein tenantiaid yn greiddiol i’n gwaith.
Os oes gennych yr angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i’n dyfodol, hon yw’r swydd i chi.
Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysyllwch â Nerys Price-Jones, Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant ar 0300 111 2122.
Datblygiad Personol:
Os oes gennych gymwysterau proffesiynol a’ch bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol i’ch corff aelodaeth, byddwn yn talu un o’r rhain bob blwyddyn i’ch helpu i aros yn gysylltiedig â’r wybodaeth a’r addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau i’n holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chi’n gweithio gyda ni byddwn ni’n buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd!
Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Byddwn yn gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Sylfaenol ar gyfer y swydd hon.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Lleoliad: Penygroes neu Dinbych a Gweithio o Gartref
Cyflog: Cystadleuol
Cytundeb: Parhaol
Oriau: 35 ayw
Dyddiad cau: 03.03,2025
Dogfennau a Dyddiadau Perthnasol
Gwneud cais:
I wneud cais, dilynwch y ddolen isod.
Os ydych chi’n cael unrhyw anhawster i gael mynediad i’r dolenni yn yr hysbyseb hon, cysylltwch â bev@charityjobfinder.co.uk