Crynodeb:
Gwneud gwaith cynnal a chadw sy’n gysylltiedig â gwaith saer coed yn effeithiol ac yn effeithlon yn nhai Barcud ac mewn eiddo arall, mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau, gan weithio’n annibynnol neu’n rhan o dîm ehangach.
Amdanom Ni:
Yn 2018, cyhoeddodd Byrddau gwirfoddol Tai Ceredigion a Tai Canolbarth Cymru eu bod wedi dechrau archwilio’r posibilrwydd y gallai’r ddau landlord gydweithio’n agosach â’i gilydd.
Drwy wneud hynny, mae’r sefydliad newydd mewn sefyllfa i ddatblygu mwy fyth o gartrefi fforddiadwy a darparu cyfleoedd mwy sylweddol o ran cyflogaeth a hyfforddiant i’w staff a’i denantiaid yn rhanbarth y gorllewin a’r canolbarth. Mae’r uno yn cynnig cyfleoedd newydd cyffrous i denantiaid, preswylwyr, gweithwyr a busnesau lleol.
Darganfyddwch fwy amdanom yma About us – Barcud
Rôl y Swydd:
Cyfrifoldebau Allweddol –
Gwaith Saer Coed:
- Cyflawni tasgau atgyweirio sy’n gysylltiedig â gwaith coed a gwaith saer coed ym mhob eiddo domestig, a chyflawni gwaith newydd hyd at a chan gynnwys y cam cyntaf a’r ail gam yn y broses adeiladu, fel sy’n ofynnol.
- Cyflawni tasgau atgyweirio sy’n cynnwys gwaith ar gafnau, ffensys ac unedau cegin, rhywfaint o waith gydag ysgolion, gwaith ar doeon a gwaith ailwampio mewnol yn ôl yr angen, fel sy’n ofynnol.
- Sicrhau bod yr holl waith saer coed a wneir yn cydymffurfio â safon uchel o ran crefftwaith, gan gynnwys gofynion deddfwriaethol fel sy’n briodol yn ogystal â pholisïau a phrotocolau, yn unol â safonau Barcud.
- Ymdrin ag argyfyngau, yn ystod oriau gwaith a’r tu allan i oriau gwaith.
- Cysylltu â thenantiaid i gyflawni gwaith yn eu cartrefi, mewn modd amserol a chwrtais.
- Cymryd rhan mewn unrhyw hyfforddiant sy’n ofynnol er mwyn cyflawni dyletswyddau.
- Sicrhau bod yr holl waith a’r holl ddeunyddiau’n cael eu darparu’n unol â strategaeth gaffael Barcud.
- Rhoi cyngor ynghylch gwaith saer coed i gydweithwyr ar draws y busnes.
- Bod ar gael i ymdrin â galwadau brys ac ymateb yn brydlon iddynt ar sail rota fel sy’n ofynnol gan y Gymdeithas.
- Sicrhau bod cerbydau’n cael eu glanhau a’u tacluso’n rheolaidd a bod yr holl stoc sydd mewn cerbyd yn cael ei storio’n briodol ac yn ddiogel ynddo.
- Fel sy’n ofynnol, cyflawni dyletswyddau crefftwr mewn disgyblaethau gwahanol er mwyn addasu i ofynion Barcud o ran busnes, sy’n newid yn barhaus.
Lawrlwythwch y disgrifiad swydd a’r fanyleb person yma
Gwybodaeth Ychwanegol:
Yn atebol i’r canlynol: Arweinydd Tîm
Department: Medra
Lleoliad: Ceredigion
Cyflog (ar gyfartaledd): £28,969
Oriau a math o gontract: 37 Awr, Llawn Amser, parhaol
Gwneud cais:
Dyddiad cau: 11 Rhagfyr 2024 (canol dydd)
(Dylech nodi na dderbynir ceisiadau a ddaw i law ar ôl y dyddiad a’r amser cau)
Dyddiad cyfweliad: 23 Rhagfyr 2024
I wneud cais, dilynwch y ddolen isod.
Os ydych chi’n cael unrhyw anhawster i gael mynediad i’r dolenni yn yr hysbyseb hon, cysylltwch â bev@charityjobfinder.co.uk