Crynodeb:
Cynorthwyo’r Pennaeth Cydymffurfio a Gwaith Cynnal a Chadw Arfaethedig i gyflawni rhaglenni Barcud ym maes Cydymffurfio a Gwaith Cynnal a Chadw Arfaethedig, trwy reoli contractau’n gadarn mewn modd sy’n galluogi Barcud i gyflawni ei amcanion busnes a diwallu anghenion ei denantiaid.
Amdanom Ni:
Yn 2018, cyhoeddodd Byrddau gwirfoddol Tai Ceredigion a Tai Canolbarth Cymru eu bod wedi dechrau archwilio’r posibilrwydd y gallai’r ddau landlord gydweithio’n agosach â’i gilydd.
Drwy wneud hynny, mae’r sefydliad newydd mewn sefyllfa i ddatblygu mwy fyth o gartrefi fforddiadwy a darparu cyfleoedd mwy sylweddol o ran cyflogaeth a hyfforddiant i’w staff a’i denantiaid yn rhanbarth y gorllewin a’r canolbarth. Mae’r uno yn cynnig cyfleoedd newydd cyffrous i denantiaid, preswylwyr, gweithwyr a busnesau lleol.
Darganfyddwch fwy amdanom yma About us – Barcud
Rôl y Swydd:
Cyfrifoldebau Allweddol:
- Rheoli a monitro contractau darparwyr sy’n cyflawni gweithgareddau i Barcud ym maes Cydymffurfio a Gwaith Cynnal a Chadw Arfaethedig, gan sicrhau bod gwasanaeth o safon uchel yn cael ei ddarparu’n gyson a bod gwerth am arian yn cael ei sicrhau bob amser.
- Cynorthwyo i ddatblygu rhaglen Barcud ym maes Gwaith Cynnal a Chadw Arfaethedig, gan gynnig mewnbwn technegol yn berthnasol i stoc y Gymdeithas.
- Rhoi neu gael cyngor technegol arbenigol i gydweithwyr ynghylch unrhyw ddiffygion strwythurol, methiannau adeiladu neu broblemau iechyd a diogelwch yn ogystal â sefydlu a chynnal unrhyw drefn fonitro angenrheidiol mewn cysylltiad â’r agweddau hynny.
- Llunio manylebau gwaith, gan sicrhau bod unrhyw waith yn cael ei gwblhau i safon uchel a’i fod yn dilyn gweithdrefnau iechyd a diogelwch Barcud a’i weithdrefnau gweithredol ac ariannol.
- Cynorthwyo i ddatblygu a gweithredu prosesau a gweithdrefnau sy’n gysylltiedig â chydymffurfio â Safon Ansawdd Tai Cymru ac sy’n gysylltiedig â Gwaith Cynnal a Chadw Arfaethedig.
- Darparu gwasanaeth ymatebol, sy’n canolbwyntio ar y cwsmer, ym maes Gwaith Cynnal a Chadw Arfaethedig ar gyfer tenantiaid a lesddeiliaid Barcud.
- Cynnal rhaglen dreigl o arolygon o gyflwr y stoc ac arolygon o ystadau, a chynorthwyo i gynnal yr arolygon hynny, gan sicrhau bod y wybodaeth sydd ar gael
am gyflwr eiddo Barcud yn gywir ac yn gyflawn. - Cael yr holl gymeradwyaeth angenrheidiol ar gyfer y rhaglenni gwaith arfaethedig y bwriedir eu cyflawni, er enghraifft yng nghyswllt y Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli), iechyd a diogelwch, a chontractwyr.
- Cynorthwyo i lunio dogfennau contractau, gan sicrhau bod cofnodion cywir yn cael eu cadw am gontractau a bod yr holl warantau cysylltiedig ac unrhyw dystiolaeth o ganiatad a gafwyd yn cael eu cadw ar ffeil.
- Monitro perfformiad contractau, gan nodi problemau gyda darparwyr wrth iddynt godi a gan adrodd yn eu cylch wrth yr aelodau perthnasol o staff uwch er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu datrys yn gyflym.
- Gweithio gyda staff caffael, pan fydd angen, er mwyn cael contractau newydd i gyflawni gwaith sy’n gysylltiedig â Chydymffurfio a Gwaith Cynnal a Chadw Arfaethedig.
- Monitro cynnydd rhaglenni gwaith arfaethedig ar sail amserlenni, gan roi gwybod i gydweithwyr am unrhyw oedi.
- Monitro cyllidebau a risgiau rhaglenni gwaith arfaethedig, gan adrodd wrth aelodau o staff uwch os oes posibilrwydd gallau trothwyon a nodwyd ymlaen llaw cael ei croesi, yn unol â gweithdrefnau Barcud.
- Sicrhau bod eiddo Barcud yn ddiogel i ddeiliaid, trwy reoli gwaith sy’n gysylltiedig ag iechyd a diogelwch.
- Cynorthwyo i baratoi hawliadau yswiriant sy’n codi o ddiffygion nad ydynt yn amlwg.
- Darparu cyngor arbenigol sy’n gysylltiedig â Gwaith Cynnal a Chadw Arfaethedig i gydweithwyr ar draws Barcud.
- Ymateb i ymholiadau tenantiaid ynghylch Gwaith Cynnal a Chadw Arfaethedig, gan sicrhau bod gwybodaeth dechnegol yn cael ei rhannu’n llwyddiannus ac yn glir.
- Cael ceisiadau gan denantiaid am waith atgyweirio a chynnal a chadw, a’u cynnwys yn y gwaith o ddarparu gwasanaethau, gan godi archebion yn ôl yr angen am waith atgyweirio / offer.
Ni fwriedir i’r disgrifiad swydd hwn fod yn rhestr gyflawn, ac o gofio y bydd gofynion, deddfwriaeth a rheoliadau’n newid, efallai y bydd angen adolygu a diwygio’r dyletswyddau fel y bernir yn rhesymol ac yn briodol.
Lawrlwythwch y disgrifiad swydd a’r fanyleb person yma
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cyflog (ar gyfartaledd): £31,570.00 – £35,583.00
Oriau a math o gontract: 37 Awr, Llawn Amser, parhaol
Yn atebol i’r canlynol: Uwch-Swyddog Cytundebau
Adran: Datblygu a Rheoli Asedau
Lleoliad: Aberystwyth a Llanbedr Pont Steffan (Ceredigion)
Gwneud cais:
Dyddiad cau: 17 Ionawr 2025 (canol dydd)
(Dylech nodi na dderbynir ceisiadau a ddaw i law ar ôl y dyddiad a’r amser cau)
Dyddiad y Cyfweliad: 30 Ionawr 2025
I wneud cais, dilynwch y ddolen isod.
Os ydych chi’n cael unrhyw anhawster i gael mynediad i’r dolenni yn yr hysbyseb hon, cysylltwch â bev@charityjobfinder.co.uk