Crynodeb:

Fel rhan o’r Tîm Llywodraethiant, arwain ar y gefnogaeth weinyddol a ddarperir i’r Grŵp mewn perthynas â Llywodraethiant. Darparu gwasanaeth effeithlon i Aelodau Bwrdd a staff i helpu i sicrhau y cyflawnir llywodraethiant da a’r arferion gorau.

Amdanom ni

Yn 2018, cyhoeddodd Byrddau gwirfoddol Tai Ceredigion a Tai Canolbarth Cymru eu bod wedi dechrau archwilio’r posibilrwydd y gallai’r ddau landlord gydweithio’n agosach â’i gilydd.

Drwy wneud hynny, mae’r sefydliad newydd mewn sefyllfa i ddatblygu mwy fyth o gartrefi fforddiadwy a darparu cyfleoedd mwy sylweddol o ran cyflogaeth a hyfforddiant i’w staff a’i denantiaid yn rhanbarth y gorllewin a’r canolbarth. Mae’r uno yn cynnig cyfleoedd newydd cyffrous i denantiaid, preswylwyr, gweithwyr a busnesau lleol.

Rôl y Swydd:

Gwasanaethau i Aelodau:
• Darparu cefnogaeth lywodraethiant gyffredinol o fath proffesiynol ac ansawdd uchel i Aelodau Bwrdd Barcud, a hynny i gynnwys:
• Trefnu a gwasanaethu cyfarfodydd, gan gynnwys cyfarfodydd rhithiol, bwcio ystafelloedd, llety dros nos a lluniaeth.
• Cyfathrebu â Chadeiryddion Bwrdd a Swyddogion Gweithredol yr Is-gwmnïau i osod Agendâu Bwrdd ac i sicrhau bod adroddiadau’n cael eu cynhyrchu a’u dosbarthu i aelodau Bwrdd o fewn amserlenni a fydd wedi’u cytuno.
• Cynhyrchu a dosbarthu’n brydlon gofnodion a rhestrau gweithredoedd o gyfarfodydd.
• Cynorthwyo’r Uwch-swydog Llywodraethiant drefnu hyfforddiant ar gyfer aelodau Bwrdd yr Is-gwmnïau yn unol â’r cynllun hyfforddiant corfforaethol a chadw cofnodion o hyfforddiant a phresenoldeb.
• Trefnu a chydlynu arfarniadau teirblynyddol i Aelodau Bwrdd, i’w cydlynu ochr yn ochr â rhai Barcud.
• Cydlynu a chymryd rhan mewn cyfarfodydd gyda’r Cadeiryddion a’r Cyfarwyddwr/Prif Swyddog ar ôl y broses arfarnu i ddeall anghenion o ran sgiliau ac olyniaeth.
• Cadw ac asesu matricsau sgiliau ar gyfer Byrddau’r Is-gwmnïau a chynorthwyo â recriwtio aelodau newydd.
• Cadw cofnodion cydraddoldeb ac amrywiaeth Aelodau ac adrodd i’r Bwrdd.
• Darparu cyngor ac arweiniad i Aelodau am faterion llywodraethiant.
• Ymgymryd ag ymchwil benodol fel a ofynnir gan aelodau Bwrdd.
• Cynnal cyfathrebu da â Chyfarwyddwr/Prif Swyddog yr is-gwmnïau i sicrhau gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredin o faterion a mentrau llywodraethiant.

Tîm llywodraethiant:
• Dirprwyo dros yr Uwch-Swyddog Llywodraethiant pan fo angen, i roi cefnogaeth Lywodraethiant i Fwrdd ac Is-bwyllgorau Barcud a Thîm Arweinyddiaeth Barcud.
• Darparu cefnogaeth cymheiriad i’r Swyddog Cydymffurfiaeth Gorfforaethol, i gynnwys cofnodi a dosrannu cwynion corfforaethol a chydosod datganiadau ar gyfer Llywodraeth Cymru.
• Darparu cymorth gweinyddol i’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol, pan ofynnir am hynny.
• Cynorthwyo â chadw cofnodion Corfforaethol, gan gynnwys cadw Cofrestrau Cydymffurfiaeth a Llywodraethiant Corfforaethol.
• Trefnu i ddogfennau gael eu llofnodi dan sêl yn ôl yr angen.
• Cynorthwyo ag adolygu Polisïau Grŵp Barcud ac ymchwilio i unrhyw ddeddfwriaeth a chyngor am y sector yn ôl yr angen.

Pobl:
• Bydd disgwyl yn rheolaidd i ddeiliad y swydd weithio heb oruchwyliaeth a gallu rheoli ei (h)amser ei hun yn effeithlon ac yn effeithiol.
• Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd fabwysiadu ymagweddiad hyblyg at y dyletswyddau a all gael eu hamrywio gan ddibynnu ar anghenion Barcud ac yn unol â phroffeil cyffredinol y swydd.
• Bydd deiliad y swydd yn hybu diwylliant perfformiad uchel sy’n gyrru gwelliant parhaus a mesurau effeithlonrwydd.
• Cyfleu blaenoriaethau, cynlluniau, gweledigaeth ac amcanion y Grŵp i sicrhau cyflawniad effeithiol yn ôl y safonau gwasanaeth a’r targedau a fydd wedi’u cytuno.

Corfforaethol:
• Hyrwyddo, meithrin a rheoli partneriaethau effeithiol â rhanddeiliaid mewnol ac allanol i gyflawni gwelliant parhaus mewn darparu gwasanaethau.
• Hyrwyddo mentrau Iechyd a Lles drwy’r sefydliad cyfan.
• Darparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid mewn perthynas â’r holl gwsmeriaid mewnol ac allanol.
• Gweithio o fewn polisïau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant y Grŵp bob amser ac ym mhob agwedd ar ddarparu gwasanaethau a chyflogaeth.
• Sicrhau bod y Grŵp a’i weithwyr yn cydymffurfio â’r holl ofynion cyfreithiol, statudol a rheoleiddiol yn ogystal â’r arferion gorau.
• Ym mhob agwedd ar waith y Grŵp, hyrwyddo cyfathrebiadau effeithiol, rhagoriaeth mewn gwasanaeth i gwsmeriaid, a ffocws ar welliant parhaus.
• Cyflawni’r cyfryw ddyletswyddau a chyfrifoldebau eraill ag a all yn rhesymol gael eu gofyn.

Lawrlwythwch y Disgrifiad Swydd a’r Fanyleb Person yma

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cyflog (ar gyfartaledd): £32,661.00

Oriau a math o gontract: 37 Awr, Llawn Amser, cyfnod penodol o flwyddyn

Lleoliadd: Llanbedr Pont Steffan, Aberystwyth neu Y Drenewydd

Sut i Wneud Cais:

Dyddiad cau: 3 Chwefror 2025 (canol dydd)
(Dylech nodi na dderbynir ceisiadau a ddaw i law ar ôl y dyddiad a’r amser cau)

Dyddiad y Cyfweliad: 13 Chwefror 2025

Os ydych chi’n cael unrhyw anhawster i gael mynediad i’r dolenni yn yr hysbyseb hon, cysylltwch â bev@charityjobfinder.co.uk