Summary: Assistant Area Housing Managers x 2

Rydyn ni’n recriwtio Swyddog 2 Tai Cymunedol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Tîm Cymunedol tai ehangach.

About Us: Assistant Area Housing Managers x 2 Principal Housing Officers x 2

Cartrefi Caerffili, sef adran tai y Cyngor, yw un o’r landlordiaid cymdeithasol mwyaf yng Nghymru. Gyda thros 10,500 o gartrefi, yn ogystal â phortffolio o wasanaethau amrywiol sydd wedi’u cynllunio i fod o gymorth i’n tenantiaid, preswylwyr a chymunedau, rydyn ni wedi ymrwymo i archwilio cyfleoedd newydd ac arloesol i wella.

Rôl swydd:

Cyfeirnod swydd: REQ0010166

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Tîm Cymunedol tai ehangach.

Bydd deiliad y swydd yn gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr i ddarparu gwasanaeth tai a rheoli ystadau sy’n canolbwyntio ar y cwsmer i’n tenantiaid a’n preswylwyr ni mewn ardaloedd cymunedol diffiniedig, gan ddatblygu perthnasoedd cryf, ymddiriedus, a chyflawni lefelau uchel o foddhad cwsmeriaid.

Byddwch chi’n rheoli contractau meddiannaeth, gan ddarparu cyngor, gwybodaeth, a chymorth wrth  gynorthwyo â chyfrifoldebau a rhwymedigaethau, gan sicrhau cydymffurfiaeth gytundebol gan gwsmeriaid, ac unioni achosion o ddiffyg cydymffurfio wrth gefnogi’r nod o gynnal meddiannaeth.

Ar gyfer y rôl, rydyn ni’n gofyn bod gennych chi’r canlynol:

  • Cymhwyster Lefel 4 mewn Tai ar Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru. Er enghraifft, Tystysgrif Genedlaethol Uwch mewn Tai.
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth gadarn o ddeddfwriaeth Tai sy’n berthnasol i reoli tai cymdeithasol.
  • Y gallu i ddangos ymrwymiad i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid eithriadol, gyda’r gallu i drin cwsmeriaid a chydweithwyr gyda pharch ac ystyriaeth.
  • Trwydded yrru lawn y DU Categori B (Ceir) a defnydd o gerbyd modur wedi’i yswirio at ddibenion busnes i deithio ledled y Fwrdeistref Sirol i ymweld â chwsmeriaid a chymunedau ac i fynd i gyfarfodydd.

Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.

I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau.

Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Elizabeth Willington/Julie Reynolds ar 07771886867/ 01443 873573 neu ebost: willie11@caerphilly.gov.uk  reynoj1@caerphilly.gov.uk

Attachments:   Job Description Community Housing Officer   Disgrifiad Swydd Swyddog Tai Cymunedol

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg.  Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae’n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o’ch hawl i weithio yn y DU.  Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.

Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.

Mae’r rôl hon yn gofyn am wiriad sylfaenol gyda’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Lleoliad: Ty Penallta/Gall oriau gwaith gael eu rhannu rhwng y cartref a’r swyddfa yn dibynnu ar ofynion tasgau penodol.
Cyflog: Grade 8: £34,314 (SCP24) – £37,035 (SCP27)
Math o gontract: Parhaol/ Llawn Amser
Oriau cytundebol: 37
Dyddiad cau: 29/05/2025

Gwneud cais:

I wneud cais, dilynwch y ddolen isod

Os ydych chi’n cael unrhyw anhawster i gael mynediad i’r dolenni yn yr hysbyseb hon, cysylltwch â bev@charityjobfinder.co.uk