Crynodeb:

Rydym yn chwilio am unigolyn angerddol i weithredu fel y prif gyswllt i’r Gymdeithas ar gyfer tenantiaid, darpar denantiaid a’r gymuned leol yn gyffredinol.  Byddwch yn sicrhau gwasanaeth rheolaeth tai effeithiol fel bo Grŵp Cynefin yn rhagori: gosod eiddo yn deg ac yn effeithiol; uchafu incwm rhent y Gymdeithas; delio gydag achosion o ymddygiad gwrth gymdeithasol.

Amdanom Ni:

Mae Grŵp Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, sy’n ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014. Rydym yn gweithio’n galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybu’r iaith Gymraeg gyda balchder. Rydyn ni am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau i’r eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd sy’n sicrhau dyfodol cynaliadwy.

Rôl y Swydd:

Disgwylir i chi weithio’n effeithiol fel rhan o’r tîm tai er mwyn darparu gwasanaeth rheolaeth tai effeithiol ac effeithlon i denantiaid a chleientiaid eraill, yn unol â pholisïau, gweithdrefnau a safonau Gofal Cwsmer y Gymdeithas. Byddwch yn cymryd rhan allweddol i ddatblygu cyfleoedd cyfranogiad effeithiol i denantiaid.

​​​Mae hwn yn gyfle cyffrous i’r person cywir; rhywun sy’n ffynnu mewn amgylchedd gefnogol ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth.

Rydym yn chwilio am rywun sydd â’r un ysfa a ni i ddarparu cartrefi a lleoedd cynaliadwy lle mae ein cwsmeriaid eisiau byw a dylai eich gwerthoedd adlewyrchu ein gwerthoedd ni.

Os oes gennych yr ysfa a’r angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol ein tenantiaid, hon yw’r swydd i chi.

Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysylltwch â Delyth Thomas, Cydlynydd Tai ar 0300 111 2122.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Math o gytundeb: Dros Dro, cytundeb 12 mis

Cyflog: £28,428 – £31,995 y flwyddyn pro rata

Lleoliad: Penygroes neu Llangefni a gweithio o gartref

Oriau Gweithio: 35 awr yr wythnos

Gwyliau: 30 diwrnod y flwyddyn yn ogystal â’r gwyliau ​banc statudol a’r cyfnod rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd pro rata

Teithio: Defnyddiwr Car Hanfodol

Pensiwn: Mae Grŵp Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS)

Dyddiad cau:  11.07.24

Datblygiad Personol:

​Os oes gennych gymwysterau proffesiynol a’ch bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol i’ch corff aelodaeth, byddwn yn talu un o’r rhain bob blwyddyn i’ch helpu i aros yn gysylltiedig â’r wybodaeth a’r addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau i’n holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chi’n gweithio gyda ni byddwn ni’n buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd!

Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

Byddwn yn gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Sylfaenol ar gyfer y swydd hon.

Gwneud cais:

I wneud cais am y rôl hon ac i gael mynediad i’r disgrifiad rôl a’r fanyleb person, cliciwch ar y botwm Gwneud cais.

Os ydych chi’n cael unrhyw anhawster i gael mynediad i’r dolenni yn yr hysbyseb hon, cysylltwch â bev@charityjobfinder.co.uk