Crynodeb: Assistant Area Housing Managers x 2

Byddwch yn rheoli’r ymagwedd gorfforaethol tuag at gaffael, gan gynnwys strategaeth, polisiau ac arwain ar gaffaeliadau mawr. Byddwch hefyd yn darparu cyngor, cefnogaeth a hyfforddiant caffael i’r Gymdeithas.

Amdanom Ni:

Mae Grŵp Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, sy’n ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014.
Rydym yn gweithio’n galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybu’r iaith Gymraeg gyda balchder.
Rydyn ni am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau i’r eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd sy’n sicrhau dyfodol cynaliadwy.

Rôl y Swydd:

Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod.

Rydym yn chwilio am unigolyn angerddol i ymuno â’n tîm. Mae hwn yn gyfle cyffrous i’r person cywir; rhywun sy’n ffynnu mewn amgylchedd heriol ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth.

  • Byddwch yn rheoli’r ymagwedd gorfforaethol tuag at gaffael, gan gynnwys strategaeth, polisiau ac arwain ar gaffaeliadau mawr.  Byddwch hefyd yn darparu cyngor, cefnogaeth a hyfforddiant caffael i’r Gymdeithas
  • Dylai eich gwerthoedd adlewyrchu ein gwerthoedd ni, ac fel aelod o’r tîm Cyllid byddwch yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth caffael a rheoli cytundebau effeithlon, effeithiol ac arloesol.
  • Rydym yn chwilio am rywun sydd â’r ysfa a’r angerdd i ddatblygu a sicrhau bod strategaeth gaffael Grŵp Cynefin yn cael ei gweithredu’n effeithiol ac mewn dull strwythuredig ar draws y Grŵp fydd yn sicrhau’r gwerth gorau am arian.

Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysylltwch â Nerys Owen-Jones, Pennaeth Cyllid, ar 0300 111 2122.

Y Pecyn

Math o gytundeb: Dros dro (12 mis)

Cyflog: £42,585 (mae’n bosibl y bydd y cyflog yn cynyddu o 01.04.24)

Lleoliad: Penygroes neu Dinbych a Gweithio o Gartref

Oriau Gweithio: 35 awr yr wythnos

Gwyliau: 30 diwrnod y flwyddyn yn ogystal â’r gwyliau ​banc statudol a’r cyfnod rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd

Teithio: Defnyddiwr Car Hanfodol

Pensiwn: Mae Grŵp Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS)

Dyddiad cau: 21/04/2024

Dyddiad Cyfweliad: 29/04/24

Disgrifiad Swydd

‘Rydym yn cael trafferthion technegol yn uwchlwytho’r Disgrifiad Swydd ar hyn o bryd. Os hoffech gopi yna cysylltwch â ni ar y cyfeiriad e-bost canlynol: swyddi@grwpcynefin.org

Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra, ‘rydym yn gweithio’n galed i oresgyn y broblem cyn gynted â phosib.

​Buddiannau: Pecyn Buddion.pdf

​​Datblygiad Personol: ​Os oes gennych gymwysterau proffesiynol a’ch bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol i’ch corff aelodaeth, byddwn yn talu un o’r rhain bob blwyddyn i’ch helpu i aros yn gysylltiedig â’r wybodaeth a’r addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau i’n holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chi’n gweithio gyda ni byddwn ni’n buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd!

Gwneud cais:

I wneud cais am y rôl hon, cliciwch ar y botwm Gwneud cais am swydd.

Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS): Byddwn yn gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Sylfaenol ar gyfer y swydd hon.

Os ydych chi’n cael unrhyw anhawster i gael mynediad i’r dolenni yn yr hysbyseb hon, cysylltwch â bev@charityjobfinder.co.uk