Crynodeb: Assistant Area Housing Managers x 2

Fel aelod o’r tîm Cartrefi Fforddiadwy, byddwch yn gweithredu fel y prif gyswllt Cofrestr Tai Fforddiadwy. Byddwch yn cynorthwyo i ofalu bod y gwasanaeth a ddarperir i’r awdurdodau lleol, datblygwyr a phartneriaid eraill yn ein perthynas a nhw o weinyddu’r cofrestrau fforddiadwy yn wasanaeth rhagorol yn unol â pholisïau, gweithdrefnau, safonau a thargedau.

Amdanom Ni:

Mae Grŵp Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, sy’n ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014.
Rydym yn gweithio’n galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybu’r iaith Gymraeg gyda balchder.
Rydyn ni am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau i’r eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd sy’n sicrhau dyfodol cynaliadwy.

Rôl y Swydd:

Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod.

Rydym yn chwilio am unigolyn angerddol i ymuno â’n tîm. Mae hwn yn gyfle cyffrous i’r person cywir; rhywun sy’n ffynnu mewn amgylchedd heriol ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth.

  • Fel aelod o’r tîm Cartrefi Fforddiadwy, byddwch yn gweithredu fel y prif gyswllt Cofrestr Tai Fforddiadwy. Byddwch yn cynorthwyo i ofalu bod y gwasanaeth a ddarperir i’r awdurdodau lleol, datblygwyr a phartneriaid eraill yn ein perthynas a nhw o weinyddu’r cofrestrau fforddiadwy yn wasanaeth rhagorol yn unol â pholisïau, gweithdrefnau, safonau a thargedau.
  • Byddwch yn sicrhau fod darpar brynwyr /darpar denantiaid yn cael gwasanaeth effeithiol a phrydlon i’w enwebu i gynlluniau tai fforddiadwy drwy Cytundeb Cynllunio Adran 106, yn ogystal â chynlluniau prynu a rhent fforddiadwy Grŵp Cynefin a’r partneriaid.
  • Rydym yn chwilio am rywun sydd â’r un ysfa a ni i ddarparu cartrefi a lleoedd cynaliadwy lle mae ein cwsmeriaid eisiau byw a dylai eich gwerthoedd adlewyrchu ein gwerthoedd ni. Os oes gennych yr ysfa a’r angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon yw’r swydd i chi.

Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysylltwch â Catrin Vaughan Roberts, Rheolwr Cartrefi Fforddiadwy, ar 0300 111 2122.

Y Pecyn

Math o gytundeb: Parhaol

Cyflog: £27,335 – £30,764 pro rata (mae’n bosibl y bydd y cyflog yn cynyddu o 01.04.24)

​Lleoliad: Penygroes a gweithio o gartref

Oriau gweithio: 21 awr yr wythnos (patrwm gwaith i’w gadarnhau)

Gwyliau: 30 diwrnod y flwyddyn yn ogystal â’r gwyliau ​banc statudol a’r cyfnod rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd (pro rata)

Teithio: Defnyddiwr Car Hanfodol

Pensiwn: Mae Grŵp Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS)

Dyddiad cau: 21/04/2024

Dyddiad cyfweliad: 09/05/24

​Disgrifiad Swydd: ‘Rydym yn cael trafferthion technegol yn uwchlwytho’r Disgrifiad Swydd ar hyn o bryd. Os hoffech gopi yna cysylltwch â ni ar y cyfeiriad e-bost canlynol: swyddi@grwpcynefin.org

Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra, ‘rydym yn gweithio’n galed i oresgyn y broblem cyn gynted â phosib.

​Buddiannau: Pecyn Buddion.pdf

Datblygiad Personol: ​Os oes gennych gymwysterau proffesiynol a’ch bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol i’ch corff aelodaeth, byddwn yn talu un o’r rhain bob blwyddyn i’ch helpu i aros yn gysylltiedig â’r wybodaeth a’r addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau i’n holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chi’n gweithio gyda ni byddwn ni’n buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd!

Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS): Byddwn yn gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Sylfaenol ar gyfer y swydd hon.

Gwneud cais:

I wneud cais, dilynwch y ddolen isod.

Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS): Byddwn yn gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Sylfaenol ar gyfer y swydd hon.

Os ydych chi’n cael unrhyw anhawster i gael mynediad i’r dolenni yn yr hysbyseb hon, cysylltwch â bev@charityjobfinder.co.uk