Mae gweithio yn y sector tai wedi fy ngalluogi i gwrdd â chynifer o wahanol fathau o bobl

15/03/2019


Mae Emma Gallo yn Rheolydd Cymdogaeth Tai Sir Fynwy (MHA) ac ymunodd â’r sector tai ar ôl gorffen cwrs gradd mewn Polisi ac Ymarfer Tai.

 “Mae’n debyg fy mod yn un o’r unig bobl rwy’n gwybod amdanynt yn MHA a ddewisodd yrfa yn y sector tai pan oeddwn yn fy arddegau, ar ôl gwneud cwrs gradd mewn Polisi ac Ymarfer Tai yn UWIC.

Mae gweithio yn y sector tai wedi fy ngalluogi i gwrdd â chynifer o wahanol fathau o bobl, pobl na fyddwn efallai wedi cwrdd â nhw mewn mathau eraill o waith. Nid yn unig mae gen i gydweithwyr sy’n ysbrydoli, ond rwyf hefyd yn gweithio’n agos gyda gwasanaethau statudol a llywodraeth, cyrff eraill yn y trydydd sector ac wrth gwrs fy nhenantiaid.

Mae amrywiaeth anhygoel o bobl yn byw yn ein cartrefi ac mae gan bawb stori unigryw i’w rhannu. Mae’n dod â chymaint o lawenydd pan welwch berson yr ydych wedi rhoi cartref iddyn nhw yn mynd ymlaen i lwyddo. Rwyf wedi gweithio gyda thenantiaid mewn sefyllfaoedd anodd iawn, sydd wedi cyflwyno heriau na fedrwn erioed fod wedi eu dychmygu. Mae pob cwsmer yn effeithio arnoch yn y swydd yma, ac mae hynny wedi fy ngalluogi i dyfu i fod y person yr ydw i heddiw; datblygu sgiliau a chael profiadau a hyder mae’n debyg na fyddwn wedi eu cael pe byddwn wedi gweithio mewn diwydiant gwahanol.

Mae gweithio i MHA wedi bod yn werth chweil; maent wedi buddsoddi ynof drwy gydol fy ngyrfa gyda chyfleoedd hyfforddiant, cymwysterau, cysgodi swydd a secondiadau. Cefais hefyd fy nerbyn yn ddiweddar ar raglen arweinwyr y dyfodol a fy enwebu mewn cystadleuaeth genedlaethol ar gyfer Arweinydd Ifanc 2017 gyda 24Housing, oedd yn uchafbwynt gyrfa. Os oes un peth y gallaf ddweud am MHA fel cyflogwr, a’r gwahaniaeth a wnaethant i fy mywyd, hynny fyddai eu hymroddiad i gynnydd gyrfa staff. Cefais gynifer o gyfleoedd i ddatblygu’n broffesiynol a phersonol yn ystod fy mlynyddoedd gyda’r sefydliad.”

 

News, Uncategorized