Saith mlynedd ymlaen rwy’n dal i deimlo’n ddefnyddiol a fel mod i’n gwneud gwahaniaeth

15/03/2019


Cheryl Tracy yw Pennaeth Cymdogaethau MHA, ar ôl dechrau fel Hyfforddai Graddedig Tai.

 “Ar ôl astudio Polisi Cymdeithasol a Throseddeg yn y brifysgol, cymerais y swydd gyntaf a allwn ond drwy’r holl amser yr oeddwn yn y rôl honno, roeddwn yn gwybod mai dim ond swydd oedd hi. Nid oeddwn yn cael unrhyw fodlonrwydd go iawn ac nid oedd yn cyd-fynd gyda fy uchelgais i gyflawni diben cymdeithasol.

Gwnes gais am swydd Hyfforddai Graddedig Tai gyda MHA. Roeddwn wedi bod â diddordeb mewn tai cymdeithasol ers i mi dreulio ychydig o amser ar Ynys Echni ar yr un pryd â grŵp o bobl digartref, ac roeddwn yn teimlo ei fod yn sector oedd yn taro tant gyda fy ngwerthoedd personol.

Byddaf bob amser yn cofio’r teimlad enfawr o ryddid, perchnogaeth a bodlonrwydd o weithio yn fy ardal gyntaf. Roedd bob dydd yn wahanol a bob dydd roeddwn yn gallaf gwneud argraff gadarnhaol ar fywydau pobl eraill – roeddwn wrth fy modd.

Mae’r sefydliad (fel llawer o gymdeithasau tai eraill) yn uchelgeisiol iawn dros eu staff a’u cymunedau. Dros y blynyddoedd cefais fy nghefnogi i:

  • Cwblhau gradd Meistr mewn Tai
  • Cymryd rhan mewn cystadlaethau cenedlaethol a siarad mewn cynadleddau
  • Dod yn Aelod Bwrdd
  • Sicrhau cynnydd yn fy ngyrfa
  • Dod yn rhan o brosiectau a rhaglenni cenedlaethol i gefnogi pobl sy’n cychwyn arni,

Ar lefel bersonol cefais y sector yn groesawgar a hael, ac rwyf ar fy ennill o gael nifer o fentoriaid ffurfiol ac anffurfiol. Mae fy hunan-barch wedi cynyddu, rwy’n dal i ddysgu drwy’r amser ac wrth fy modd yn gwneud hynny ac rwy’n teimlo fel mod i wedi gwneud gwahaniaeth.

Os ydych yn edrych am sector lle gallwch ddysgu’n barhaus, dylanwadu a gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl eraill – yna dylech yn wirioneddol ystyried tai fel gyrfa.”

 

News, Uncategorized