Mae’n wirioneddol werth chweil i wybod fy mod yn gwneud gwahaniaeth go iawn

25/07/2019


Bu Viki Morgan yn gweithio gyda Chymdeithas Tai Rhondda am ddeng mlynedd, gan weithio o fewn y tîm cefnogaeth. Mae’n dweud wrthym beth wnaeth ei denu at yrfa yn y sector tai.

 

“Roeddwn yn arfer gweithio o fewn adran iechyd cyhoeddus awdurdod lleol ac roedd y cysylltiad gyda thai bob amser o ddiddordeb i fi. Pan welais swydd yn cael ei hysbysebu gyda thîm cefnogaeth cymdeithas tai, gwyddwn fod yn rhaid i mi wneud cais.

 

Fel Swyddog Cynaliadwyedd Tenantiaeth, rwyf yn bennaf yn gweithio gyda thenantiaid newydd, asesu eu hanghenion a gwneud yn siŵr y gallant dderbyn cefnogaeth addas.

 

Rwy’n cwrdd â’r tenantiaid ar y dechrau cyntaf felly mae’r berthynas yn cael ei sefydlu’n gynnar a gallaf wedyn eu helpu gydag ochr mwy ymarferol symud. Mae’r pobl rwy’n gweithio gyda nhw yn gwybod y gallant gysylltu â fi ar unrhyw adeg, hyd yn oed ar ôl iddynt setlo yn eu cartref newydd. Mae sefydlu perthynas yn gynnar yn helpu i feithrin ymddiriedaeth rhyngom ni a’r tenant ac roedd yn wirioneddol werth chweil gweld gostyngiad o 100% yn nifer yr achosion o droi tenantiaid o’u cartrefi fel canlyniad i ôl-ddyledion rhent o fewn blwyddyn gyntaf y rhaglen Get Set.

 

Mae’r rôl bellach wedi ehangu i gynnwys gwasanaethau eraill a sefydlwyd fel canlyniad i anghenion ychwanegol tenantiaid ac mae gan Gymdeithas Tai Rhondda bellach brosiect banc bwyd lleol a elwir yn Grub Hub sy’n dosbarthu bwyd i’r bobl y gwyddom sydd â mwyaf o angen. Rydym yn helpu i ddynodi pobl sydd angen cymorth efallai nad oedd neb wedi sylwi arnynt yn flaenorol, ac mae’n wirioneddol werth chweil i wybod fy mod yn gwneud gwahaniaeth go iawn.”

News